Y twll yn y wal
Mae Peter Hain wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion Comisiwn Holtham. "Very newsworthy" oedd disgrifiad un sbin-feistr o'r datganiad ond yn y diwedd efallai mai disgrifiad un arall "peidiwch dal eich anadl" oedd yn gywir.
Ar yr ochor gadarnhaol mae Peter Hain wedi cael addewid gan y Canghellor y bydd y "llywodraeth yn gweithredu os ydy Cymru colli allan oherwydd fformiwla Barnett". Faint o werth sy 'na i'r addewid hwnnw sy'n gwestiwn arall. Nid hwn yw 'r "llawr" y galwodd y Comisiwn amdano. Does 'na ddim ffigwr na swm penodol yn wedi pennu a dyw e ddim yn amlwg a byddai'r addewid yn goroesi newid llywodraeth neu hyd yn oed newid canghellor.
Serch hynny mae'r ffaith bod Gerry Holtham ei hun wedi croesawi'r cyhoeddiad yn awgrymu bod brwydrau, os nad y rhyfel, wedi eu hennill. Mae'n werth nodi bod Gerry hefyd wedi dweud bod angen rhagor o waith i droi'r addewidion yn weithredoedd.
Un peth sy'n amlwg. Does dim gobaith cath gan Gymru gael yn ôl y biliynau o bunnau yr oedd y comisiwn yn credu yr oedd wedi eu colli oherwydd y fformiwla. Mae Peter Hain yn dai i fynnu "The Barnett formula has served Wales well over the years..."