´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mynd drot drot

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009

RASUS.jpgCafodd gyfaill i mi ar Ynys Môn alwad ffôn y dydd o'r blaen yn gofyn i bwy yr oedd e'n bwriadau pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol. Darllenodd y galwr rhestr o enwau'r ymgeiswyr ar yr ynys ond doedd 'na ddim arwydd pwy oedd yn cynnal yr arolwg. Serch hynny, rwy'n gwybod dau beth.

Yn gyntaf, mae arolwg lle nad yw enw cwmni'n cael ei ddefnyddio gan amlaf yn arolwg talcen slip gan un o'r pleidiau. Y bwriad yw casglu gwybodaeth er mwyn penderfynu ym mha etholaethau y dylid buddsoddi arian ac egni.

Yr ail beth rwy'n gwybod yw nad yw gweithwyr pleidiau yn gallu gwrthsefyll y demtasiwn i fentro swllt ar sail canlyniadau arolygon! Allan o ddiddordeb felly, beth am gael cipolwg ar brisiau Ladbrokes ar gyfer Ynys Môn ac un neu ddwy o etholaethau eraill?

Ynys Môn.

Plaid Cymru 1/3
Llafur 9/4
Ceidwadwyr 16/1
Dem. Rhydd. 100/1

Mae'n weddol hawdd dyfalu beth oedd canlyniad yr arolwg yna! Mae'n amlwg hefyd nad yw "punters" Ladbrookes yn ystyried yr Arfon newydd yn sedd ymylol. 1/10 yw pris Plaid Cymru gyda Llafur yn 6-1.

Y Toriaid sy'n denu'r pres yn Aberconwy;

Ceidwadwyr 2/7
Plaid Cymru 7/2
Llafur 8/1
Dem. Rhydd 25/1

Mae'n amlwg bod Lembit (2/5) a Glyn (7/4) ill dau yn temtio pobol ym Maldwyn tra bod Llafur a'r Ceidwawyr yn 5/6 yng Ngorllewin Casnewydd. Gellir gweld gweddill y prisiau yn . Dyw Ladbrokes ddim yn cynnig prisiau ar gyfer y ras ym Mlaenau Gwent na'r un rhwng Jim Parc Nest a Mererid Hopwood. Dydw i ddim yn beio nhw!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:40 ar 5 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Ceredigion hefed yn ddiddorol:

    PC 8/11
    Rhydd Evs
    Tori 25/1
    Llafur 100/1

  • 2. Am 14:18 ar 5 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    A dweud y gwir mae Ceredigion yn 5/6 ar Blaid Cymru A'R Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'r bwcis yn amlach yn fwy treiddgar na sylwebwyr gwleidyddol, felly dylai PC fod yn ofalus rhag bod yn rhy hyderus mi dybiaf!!

  • 3. Am 20:31 ar 6 Tachwedd 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Dim son am Peter Rogers mae e yn dwyn pleidleisiau oddi wrth y Blaid a'r Toriaid fel ei gilydd. Dwi yn meddwl y byddai ef o help i Lafur.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.