Jyst Dwedwch Ie
Mae David Cameron yng Nghymru yfory a heb os mae'n disgwyl clywed cwestiwn y mae'n wynebu pob tro mae'n dod yma sef hwn;
"A fyddai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yn San Steffan yn ystyried gwrthod cais gan y Cynulliad am refferendwm ar bwerau deddfu llawn ?"
Byswn i'n rhyfeddu pe na bai Arweinydd yr Wrthblaid wedi cael llond bol ar y cwestiwn erbyn hyn!
Y ffordd orau i gael gwared ar gwestiwn yw ei ateb ac mae'n debyg mai dyna fydd yn digwydd yfory.
A'r ateb tebygol? "Na fyddai".
Fe fyddai hynny'n fuddugoliaeth bwysig i Ceidwadwyr y Cynulliad ac yn dipyn o glec i ambell Aelod Seneddol.