Dilyn yr arth...
Dydw i ddim yn credu bod y peth wedi 'sgwennu lawr ond mae 'na ryw fath o reol yn y ´óÏó´«Ã½ bod yn rhaid i bawb wneud rhywbeth dros "Plant Mewn Angen" neu o leiaf crybwyll y peth.
Dyw hynny ddim yn hawdd i mi. Mae gen i falais personol yn erbyn yr arth byth ers i benwythnos yr apêl gyd-fynd a chwymp Margaret Thatcher yn 1990. Y rhaglen fwyaf trychinebus i mi gymryd rhan ynddi erioed oedd un ar S4C y penwythnos hwnnw. Trafod y sefyllfa wleidyddol oeddwn i ond yr arth oedd y flaenoriaeth i'r ´óÏó´«Ã½ ac roedd y twmffat melyn wedi bachu'r holl adnoddau. Cwymp un o ffigyrau mawr yr ugeinfed ganrif? Beth oedd hynny i gymharu â dyn yn ymdrochi mewn cwstard yn Abergeirw?
Sut mae trafod Pudsey heb ffrwydro? Beth am edrych ar etholaeth Pudsey yn Swydd Efrog sedd y mae'r Ceidwadwr o Fôn, Stuart Andrew yn gobeithio ei hennill?
Mae gan Stuart siawns go dda mewn gwirionedd. Gogwydd o 5.45% sydd ei hangen ar bapur ond rwy'n tybio bod y sedd yn fwy addawol na hynny mewn gwirionedd gan ei bod yn "sedd Geidwadol naturiol" tan 1997.
Os ydy Stuart yn llwyddo fe fydd e'n aelod o glwb bach dethol o siaradwyr Cymraeg sydd wedi cynrychioli etholaethau y tu allan i Gymru yn San Steffan. Roedd rhai o rheiny yn Gymry naturiol fel (South Ayrshire) a (Cannock) tra bod eraill fel (Berwick) ac (Wolverhampton a Down South) wedi dysgu'r iaith.
Roedd ambell i wleidydd annisgwyl hefyd a rhywfaint o Gymraeg. Fe wnâi ddim enwi'r aelod Cymreig anffodus wnaeth ddysgu bodyn deall Cymraeg ar ôl cyfeirio ati dan ei anadl fel "hen ast wirion"!
SylwadauAnfon sylw
Paid anghofio'r cyn-DJ penfelen Michael Fabricant (Lichfield) sy' wedi dysgu'r iaith hefyd.
Reit - faint o aelodau seneddol Cymraeg eu hiaith tu fas i Cymru sy wedi bod erioed? Cwis o'r diwedd...
Gwilym Lloyd George tra'n aelod yn Newcastle
Oedd gan Merlyn Rees unrhyw Gymraeg?
Dwi ddim yn siwr am Merlin rees. Mae Peter Thomas (Hendon) yn dod i'r cof
Ydw i'n iawn i feddwl bod yr aelod a sarhaodd y Fonesig Elaine wedi cyfeirio at y digwyddiad yn un o'i gyfrol o hunanfywgraffiadau??
Bosib iawn! Dydw i ddim am eu hail-ddarllen nhw!
Ydy Billy Hughes yn cyfri?
£10 i Blant mewn Angen os wnei di ddatgelu'r enw !!
Gofynna i'r Hogyn- mae'n weddol amlwg o'i sylw! Dydw i ddim yn sicr fy mod wedi cael y rheg yn gwbl gywir!
Dwi'n meddwl mai rhywbeth hyd y llinellau "be uffar mae hon yn siarad am" oedd y llinell yn hytrach nag "hen ast wirion" - ond dwinna chwaith ddim am ail-ddarllen jyst er mwyn ffendio allan!
Ma Pudsey bron mor ddrwg a'r syniad bydd hala 3 punt y mis i'r NSPCC yn rhoi pen ar cam drin blant..
Rhys
Oes angen i mi Ddal Ati i chwilio felly ?
Oce, fe wna i ildio. Dafydd Wigley oedd yr AS