O Deuwch Ffyddloniaid...
Dwi'n gwybod bod arian yn brin a bod y blaid ar ganol etholiad mewnol ond faint o waith fyddai angen mewn gwirionedd i osod darllediad Llafur Cymru o neithiwr ar y we? Efallai bod y mawrion yn ofni "Delilah" arall!
Yn ffodus mae fersiynau Lloegr a'r Alban o'r darllediad ar gael. Gwyliwch y ddau ac mae'n ddigon posib gweithio allan beth oedd yn y darllediad Cymreig!
Wow! Son am apelio at y bleidlais graidd! Beth ? "Nid yw troi'n ôl tuag at ein pleidlais graidd yn opsiwn inni os ydym eisiau bod yn llwyddiannus" neu rywbeth felly, os gofia i'n iawn! Ydy e wedi cael gair a'r pencadlys?
SylwadauAnfon sylw
O gymharu'r ddau ddarllediad, mae'n ddiddorol sylw nad oes son am "Loegr" o gwbl yn yr un Seisnig. Lluniau llu o Jac yr Undeb ond dim o faner Sant Sior. Aml son am "Brydain" a son ar y diwedd am "True Brits" hyd yn oed.