Mae'r hon a gar fy nghalon i...
Dydw i ddim cweit yn deall pwrpas arolwg blynyddol cwmni Ipsos Mori o safbwyntiau Aelodau Cynulliad.
Dim ond trigain ohonyn nhw sy' na wedi cyfan ac fe ddylai eu safbwyntiau bod yn ddigon amlwg o'u hareithiau a'u pleidleisiau yn y senedd. Efallai bod y cwmni'n amau bod gwleidyddion yn fwy gonest wrth ymateb i arolwg yn ddienw! I fod yn deg mae 'na ambell i ganlyniad difyr.
Un enghraifft yw'r ateb i'r cwestiwn yma "pwy yn eich barn chi yw'r gwleidydd mwyaf nodedig (impressive) yn y cynulliad?
Edwina Hart; 25%
Rhodri Morgan; 24%
Elin Jones; 12%
Huw Lewis, Carwyn Jones a David Meding ddaeth nesaf yn gydradd ar 5%. Roedd 'na un awrweinydd plaid na chafodd ei henwi o gwbl. Unwaith yn rhagor mae treigliad yn adrodd cyfrolau.Yn fwy difyr fyth roedd 8% o'r aelodau naill ai'n gwrthod dweud neu o'r farn nad oedd unrhywun yn y Cynulliad yn nodedig!
ON Er bod y canlyniadau'n ddienw fe holwyd yr aelodau wyneb yn wyneb. Fe ddywedodd un aelod mai Nick Ramsey yw'r AC mwyaf nodedig. Does bosib... ond os nid fe'i hun, pwy?
OON Yn ôl Ipsos Mori nid oes modd i aelod enwebu ei hun. Rwy'n gofyn eto felly PWY?
SylwadauAnfon sylw
'Sgwn i pwy bleidleisiodd Lynne Neagle drosto?
Efallai y byddai arweinydd y Lib Dems wedi dod ar y blaen petai system pleidlisio gyfrannol !!!
Fedra i ddim meddwl am system lle nad yw dim yn ddim!
Vaughan yn hollol. Ramsey - Os nad mai fe yw'r AC mwyaf nodedig, mae'n sicr mai fe yw'r mwyaf golygus!