Paffio yn y Pwyllgor
Un o'r manteision o fod yn llywodraeth gyda mwyafrif mawr, fel un Rhodri Morgan, yw nad yw pwyllgorau'n debyg o achosi trafferth. Dyna yw'r theori. Mae'r realiti ychydig yn wahanol, yn enwedig felly ar bwyllgor cyllid y cynulliad.
Yn ôl cyn gwyliau'r haf fe achosodd y pwyllgor gryn drafferth i'r Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones. Y Gweinidog Cyllid, Andrew Davies sy'n ei chael hi nawr wrth i'r pwyllgor lunio adroddiad ar gyllideb flwyddyn nesaf.
Problem y Llywodraeth, mae'n ymddangos, yw mai dim ond aelodau Plaid Cymru (Chris Franks a Mohammad Asgar) ac un aelod Llafur sef Joyce Watson sy'n pleidleisio'n gyson o blaid safbwyntiau'r cabinet. Mae'r ddau aelod Llafur arall sef Huw Lewis ac Alun Davies yn ddigon parod i ochri gyda'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Canlyniad hynny yw bod y pwyllgor wedi mynd i drafferth a rheolau sefydlog y Cynulliad trwy fethu cytuno ar adroddiad o fewn y cyfnod pendodedig. Mae pobol y llywodraeth yn gynddeiriog ynghylch y peth ond ar y llaw arall beth yw pwynt cael pwyllgor sy'n ymddwyn fel gwas bach i'r gweinidog?