´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau Gwag

Vaughan Roderick | 15:19, Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009

_1218672_jobcentre150_bbc.jpgMae ffigyrau diweithdra diweddaraf Cymru yn drychinebus. Does dim gair arall sy'n addas i'w disgrifio. O'r cynnydd o 30,000 yn nifer y di-waith trwy Brydain mae bron i hanner y bobol ychwanegol sydd ar y clwt yma yng Nghymru.

Mae'n sicr eich bod yn cofio'r ffordd yr oedd y llywodraeth yn ôl yn yr haf yn brolio am y ffaith bod Cymru'n dioddef llai o'r dirwasgiad na gweddill y DU. Roedd gweinidogion yn ddigon parod i gymryd y clod am hynny.

Mewn datganiadau i'r wasg ar Fehefin 17eg, Gorffenaf 15fed ac Awst 14fed fe froliodd y llywodraeth am lwyddiant polisiau fel Proact a React gan ddefnyddio'r ffigyrau diweithdra fel prawf o hynny.

Beth sy gan y Llywodraeth i ddweud heddiw? Wel, does dim gair yn ei datganiad am y ffigyrau diweithdra. Yn lle hynny mae'n son am y nifer sy'n hawlio budd-daliadau.

Sori, dyw hynny ddim yn ddigon da. Os oedd gweinidogion yn awchu i gymryd y clod yn yr haf mae'n rhaid iddyn nhw dderbyn y bai yn yr Hydref.

Diweddariad Mae'r llywodraeth wedi rhyddhau ail ddatganiad y tro hwn yn cyfeirio at y ffigyrau diweithdra yn benodol. Mae'r Llywodraeth yn cyfaddef bod y ffigyrau yn "siomedig". Dydw i ddim hd yn oed am geisio cyfiethu'r peth yn ei gyfanrwydd!

"It is disappointing that the latest figures show a quarterly rise in ILO unemployment for Wales. This does not however reflect the position over the year (a comparison recommended by the ONS to remove some of the volatility in quarterly figures). In addition, the level of ILO unemployment does not take into account any changes in economic inactivity - a historically important indicator for the Welsh economy. The employment rate for Wales over the year (taking into account unemployment and inactivity levels) shows one of the lowest falls when compared to the rest of the UK - with Wales outperforming London, the South East, Scotland and Northern Ireland (amongst others)."

Ie wir, Syr Wmfra.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:20 ar 11 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Del Boio:

    Mi allai llywodraeth San Steffan gymeryd y bai am y llanast economaidd sy'n bodoli. Ond sut erioed y gwnaeth ein gwleidyddion yng Nghaerdydd fynnu clod yn gynharach yn y flwyddyn? Ffolineb. Ni chreuwyd unryw gyfoeth gan unrhyw lywodraeth erioed. Ond maen't wedi ac yn dal i ddinistrio llawer ohonno.

  • 2. Am 11:23 ar 12 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Dewi:

    "Ni chreuwyd unryw gyfoeth gan unrhyw lywodraeth erioed."

    Hmm - MITI yn Siapan?


  • 3. Am 19:26 ar 12 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Del Boio:

    Diawl....roeddwn i'n meddwl bydde sawl un yn mynd i ddadlau yn erbyn beth y dywedais uchod?! Rhaid fy mod i'n agosach at y gwir nag yr oeddwn i'n ei feddwl.:-)

    Diddorol Dewi.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.