Rialtwch
Mae 'na ormod o amser gan rai pobol! Dwn i ddim pam y byddai rhywun yn sganio hen gylchgronau teledu o'r chwedegau a'u gosod nhw Ar y llaw arall maen nhw'n ddifyr i ddarllen!
O dudalennau "Tevision Weekly" cawn ddysgu bod gan gwylwyr y dewis ar o wylio "Tri Chynnig", "Y Dydd" a "Tarzan" ar Deledu Cymru neu "TWW Reports" a "Sixth Form Challenge" ar y Gwasanaeth Cyffredinol. Beth oedd "Tri Chynnig"? Yn ôl y cylchgrawn "cyfle i daflu dartiau ac ateb cwestiynau" oedd hi. Mae hynny'n atgoffa rhywun o rywbeth. Piti na feddyliodd teledu Cymru feddwl am gofrestri hawlfraint!
Anghofiwch am Susan Boyle a Paul Potts. Mae gan yr Iwcrain dalent! Diolch i Dewi am dynnu fy sylw at gelfyddyd dywod ryfeddol Kseniya Simonova.
Mae Corfforaeth Darlledu Canada wedi gosod llwyth o drysorau ar lein gan gynnwys y darn bach yma am Peter Sellers. Mae'n ddiddorol ynddi hi ei hun ond mae dau beth yn sefyll allan- y smocio a'r Saesneg ryfeddol o grand sy'n cael ei defnyddio gan yr actor a'i holwraig o Ganada.
Yn olaf gan fod Cyngor Prydain ac Iwerddon wedi bod yn trafod ieithoedd lleiafrifol ar Jersi dyma ychydig o Jèrriais.
Mae Eisteddfod Flynyddol Jersi yn cael ei chynnal am y 101fed tro ar hyn o bryd. Mae 'na bigion i gael ar wefan Channel TV yn .
Gyda llaw, fe wnaeth cynhyrchydd "Tri Chynnig" Huw Davies ddiweddu fyny fel pennaeth "Channel TV". Mae'r byd yn fach!
SylwadauAnfon sylw
Beth sydd yn ddiddorol am 1967 yw safon uchel y rhaglenni i gymharu a heddiw.