Tân ar y comin
Mae newyddiadurwyr yn hoff o'r achlysuron hynny sy'n ein galluogi i balu yn yr archif ac yn ein rhyddhau rhag gorfod chwilio am straeon newydd! Mae 'na lu o achlysuron felly wedi bod eisoes eleni. Cafwyd eitemau celfydd a rhaglenni cyfan yn nodi ei bod hi'n chwarter canrif ers streic y glowyr, yn ddeng mlynedd ar hugain ers ethol Margaret Thatcher ac yn ddeng mlwyddiant sefydlu'r cynulliad. Yr wythnos hon rydym yn i gyd yn mynd yn benwan walics ynghylch cwymp wal Berlin er nad oedd ambell i newyddiadurwr Cymraeg yn meddwl bod hi'n fawr o stori ar y pryd!
Ymhen rhyw fis fe fydd 'na ben-blwydd arall, un sy'n weddol saff o gael ei anwybyddu neu ei anghofio. Fe fydd hi'n ddeng mlynedd ar hugain ers i ni ddihuno i glywed y newydd bod hanner dwsin o dai haf wedi eu llosgi mewn dau glwstwr yn Sir Benfro a Phen LlÅ·n. Doedd dim angen bod yn athrylith i synhwyro nad cyd-ddigwyddiad oedd y tannau a bod cymhelliad gwleidyddol wrth wraidd yr ymosodiadau.
Dros y pymtheg mlynedd nesaf roedd 'na ryw 220 o dannau mewn tai haf. Yn ogystal gosodwyd bomiau cyntefig y tu allan i swyddfeydd Ceidwadol, swyddfeydd recriwtio'r fyddin a thargedi eraill. Fe gafwyd ambell un yn euog am yr ail set o ymosodiadau ond bron neb am yr ymosodiadau ar dai haf. Hynny er i'r heddlu gynnig gwobr o £50,000 am wybodaeth a gwneud apêl yn Gymraeg ar "Crimewatch". O'r rheiny gwnaeth ymddangos gerbron llys "hunan liwtwyr" neu gymeriadau ecsentrig oedd y rhan fwyaf. Dyw'r mwyafrif llethol o'r achosion ddim wedi eu datrys hyd heddiw.
Fe barodd yr ymosodiadau am gyfnod hwy o lawer na helyntion Becca. Roedd 'na lawer mwy o ymosodiadau nac yn ystod helbulon Tryweryn a'r Arwisgiad ac eto mae'r cyfan yn prysur gael ei anghofio neu o leiaf yn cael ei sgubo dan y carped.
Mae'r rhesymau am hynny yn ddigon amlwg. Dyw'r bobol oedd yn gyfrifol ddim am deimlo dwylo'r plismyn ar eu coleri ar ôl cymaint o amser. Dyw Heddluoedd y Gogledd a'r Gorllwein ddim am gofio sut y gwnaethon nhw lwyddo i gythruddo a cholli cefnogaeth cymunedau cyfan trwy ddefnyddio tactegau llawdrwm a gwirion megis "Operation Tân". Mae Heddlu'r De, ar y llaw arall, yn cywilyddio ynghylch cyfnod yn ei hanes sy'n frith o achosion lle cyhuddir plismyn o gamymddwyn ac o ddweud celwydd ar lw.
Dyw'r cenedlaetholwyr parchus yn y Cabinet a'r Cynulliad ddim am atgoffa pobol o eithafiaeth o'r fath ac, ac eithrio ambell i un y blaid Lafur, mae gwleidyddion y pleidiau eraill wedi sylweddoli bod 'na gymaint o bleidleisiau i'w colli ac sydd 'na i'w hennill trwy ailgynnau'r rhyfeloedd iaith.
Fe fydd haneswyr y dyfodol yn pwyso a mesur goblygiadau'r tannau. Efallai ei bod hi'n rhy gynnar i ni wneud hynny ond gallwn ddweud hyn.
Roedd yr ymosodiadau yn un o ddau beth.
Mae'n bosib bod grŵp bychan disgybledig o bobol wedi llwyddo i gynnal ymgyrch o losgi a bomio am dros ddegawd heb gael eu dal. Mae'n bosib hefyd nad oedd 'na fawr o drefniadaeth i'r peth ar ôl y noson gyntaf honno yn Rhagfyr 1979. Mae'n hawdd dychmygu bod pwy bynnag oedd yn gyfrifol am y tannau cyntaf hynny wedi camu yn ôl ar ôl cynnu'r ffiws a bod y tannau ar ôl hynny'n eiddo i unigolion a grwpiau bychan oedd a fawr o gysylltiad â'i gilydd.
Efallai bod y gwir yn gorwedd rhywle rhwng y ddau.
Y naill ffordd neu'r llall doedd y tannau ddim yn ddigwyddiad dibwys yn hanes Cymru. Maen nhw'n rhan annatod o'r cyfnod pwysicaf, efallai, yn ein hanes sef y cyfnod rhwng "tranc Cymru" yn 1979 a'i "dadeni" yn 1997.
Wedi ei olygu (dyfynodau ar "dadeni") 18.08
SylwadauAnfon sylw
A oes rhywun arall yn meddwl fod amseru digwyddiadau fel y rhain yn ddiddorol?
Diddorol iawn ond tybed a yw "dadeni" yn air rhy gryf i ddisgrifio'e hyn a ddigwyddodd yn 1997?
Roeddwn wedi bwriadu rhoi'r gair mewn dyfynodau! Newydd sylwi na wnes i!
Fel un o drigolion Ty Croes, dwi'n ansicr os gyd-digwyddiad neu ddim yw amseriad beth ddigwyddodd dros y penwythnos. Er mae'r rhan yma o Fon yn un sydd wedi newid (i gymharu a rhannau arall o Ogledd Cymru) cryn dipyn yn diweddar. (golygwyd)
Dydw i ddim am rwystro trafodaeth ond cadwch draw o unrhyw achosion llys posib os gwelwch yn dda.