Bratiaith a thafodiaith
Mae 'na bost difyr iawn gan Hywel draw ar ei flog ynghylch tafodiaith Cwmafan a Phort Talbot a'r ymgyrch i'w diogelu. Mae'n dafodiaith hyfryd ac am wn i mae 'na ddigon yn ei defnyddio i sicrhau bod elfennau ohoni yn goroesi yn y Gymraeg sy'n cael ei siarad gan blant yr ysgolion Cymraeg lleol.
Mae'r Wenhwyseg hefyd yn dafodiaith hyfryd ond er bod ambell un yn dal i'w siarad mae unrhyw obaith mai hi fyddai tafodiaith cynnyrch ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain wedi hen ddiflannu. Y dewis, mae'n debyg, yw rhwng rhyw fath o Gymraeg ddeheuol safonol a'r hyn yr oedd pobol arfer dilorni fel "Rhydfeleneg".
Mae'n anodd credu ond mae rhai o ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain bellach yn croesawi wyrion a gorwyrion eu cyn-ddisgyblion i'r buarth. Maent yn ceisio dysgu Cymraeg safonol i'r plant ond onid yw hi'n bryd i dderbyn bod ambell beth wedi symud o fod yn fratiaith i fod yn dafodiaith?
Hynny yw, os ydy plant sy'n cael eu magu ar aelwydydd Cymraeg yn clywed eu rhieni a'u neiniau a'u teidiau yn dweud pethau fel "fi gyda" yn hytrach na "mae gen i" onid yw hi'n bryd i ni dderbyn bod hynny bellach yn dafodiaith leol pa mor bynnag boenus yw hi i ambell i glust?
Dim ond gofyn.
SylwadauAnfon sylw
Ydi
Byddwn i'n tueddu at ddweud 'na', fel rhywun sydd â phrofiad gweddol ddiweddar o addysg uwchradd yr ardal, ond yn bennaf oherwydd dy sylw olaf am aelwydydd Cymraeg.
Cofier, mae llai na 5% o ddisgyblion ysgolion Cymraeg y De, a hyd yn oed Rhydfelen, yn dod o aelwydydd Cymraeg. At heddiw, mae llawer iawn o'r rheini (o aelwydydd Cymraeg) yn dod o gartrefi nid cyn-ddisgyblion ysgolion fel Rhydfelen eithr cartrefi â rhieni o ardaloedd y tu allan i'r cymoedd, gan fwyaf y Fro Gymraeg.
Un o fethiannau mawr addysg Gymraeg yn y de ydi nad ydi hi o gwbl wedi arwain at feithrin plant sy'n siarad Cymraeg yn naturiol - dyma pam bod y gyfradd sy'n dod o gartrefi Cymraeg mor isel, ac sy'n awgrymu'n gryf iawn nad ydi'r disgyblion cyfredol, er bod nifer o'u rhieni neu neiniau a theidiau yn gyn-ddisgyblion, wedi'u magu ar aelwyd Gymraeg.
Nid beirniadaeth o'r athrawon na'r ysgolion mo hynny, mae'n broblem anodd, ond wedi hanner canrif mae'r agwedd honno ar addysg Gymraeg yn Ne Cymru wedi bod yn fethiant.
Os megir tafodiaith ar yr aelwyd, yna mae angen llawer mwy o aelwydydd Cymraeg ar "Rhydfeleneg" a'i bath cyn y gellir ei hystyried yn dafodiaith. Fedra i ddim cynnig ateb i sut y mae gwneud hynny, ond dyna sy'n rhaid bod yn nod.
Ond rhaid i ni fod yn onest, os ydi "talko" a "walko" yn dafodieithol yn hytach na'n fratiaith, a ydyn ni'n gadael i safonau lithro?
Ble mae'r ffin felly rhwng 'bratiaith' a 'thafodiaith'? A ydy'n bryd derbyn pethau fel
- 'rhai weithiau'
- 'gyd o'r'
ai diogi ieithyddol yw hyn yn hytrach na esblygiad ieithyddol?
Ie.
Rydw.