Rhwydweithio
Un o fy ffrindiau pennaf yw Andy Bell, bachan o Loegr wnaeth ddysgu Cymraeg cyn mudo i Awstralia ugain mlynedd yn ôl. Yn ogystal â bod yn gynhyrchydd newyddion gyda'r ABC mae Andy yn gyflwynydd radio ac yn dipyn o flogiwr.
Ta beth, fe wnes i gynnwys dolen i flog-bost ganddo ynghylch "Pobol y Cwm" ar "Rialtwch" y Sul diwethaf ac mae'r ymateb wedi ei berswadio i lansio blog Cymraeg o ben draw'r byd. "" yw enw'r blog ac rwy'n ofni'r gystadleuaeth! Gyda llaw, dyw Andy ddim yn nodi'r ffaith (a dwi'n deall pam) ond Côr Cymry Sydney sydd yn y fideo.
Dyma ychydig o ddolenni eraill difyr yn Awstralia;
Yr unig wrthryfel yn erbyn yr awdurdodau Prydeinig yn hanes Awstralia oedd brwydr y "" . Yr arweinydd oedd un o siartwyr Sir Drefaldwyn .
Dyma ambell i ddolen yn agosach at adref.
Y "". Mae'n wythnos ddathlu'r Fanaweg yr wythnos hon. Dyma'r .
Yn y cyfamser mae yn cwrdd ar ynys Jersi i drafod dyfodol ieithoedd lleiafrifol cynhenid. Ieuan Wyn Jones sy'n cynrychioli Cymru mewn cyfarfod sy'n cael ei weld fel hwb sylweddol i'r ymgyrchoedd munud olaf i ddiogelu Jèrriais a D'Guernesiaise.
Yr unfed awr ar ddeg...