Unrhyw esgus
Diolch i Gareth am hon!
Beth sydd wedi digwydd i , neu Anuerin fel mae'n galw 'i hunan nawr?
Fel dwedais i, unrhyw esgus.
Beth am oedi am eiliad i gofio'r hyn ddywedodd wrth lansio'r gwefan yn ei erthygl "An Obama Moment for Welsh Labour";
"Our aim is to build a network of progressive people who are interested in politics, but are not obsessed with it. That is the one danger of blogging, it can become the preserve of a self-appointed elite. We already have the core activists, what we need to do now is reach out and mobilise the millions of people who, although they might never go to a Labour Party meeting, will work hard to stop the Tories getting into power again."
Mae hynny braidd yn wahanol i "Online resource for Labour Party Members in Wales"!
SylwadauAnfon sylw
Mae'n rhaid fod Aneurin G yn darllen dy flog di. Mae e newydd newid 'i enw eto, o Anuerin i Aneurin. Dylanwadol Vahugan!
'Rwyn cofio un ymateb i'r canu ar wefan Aneurun Glyndwr ar un or blogiau a fyddaf yn pori dewyddynt weithiau. Roedd y sylw yn cael ei gyfeirio at Eluned Morgan, "Don't give up the day job love!"
Mae'n amlwg na wrandawodd ar y cyngor. 'Dwi ddim yn gwybod os oedd hi wedi gwneud ei ffortiwn cyn ymddeol o Senedd Ewrop ond daliwyd ei mêt Glennys a tua 200 arall, yn SISOio (Sign in, sod off) ar fideo gan Hans Peter Martin, aelod seneddol ewropiaidd o Awstria. Ei eglurhad an fynnu cael tua £170 y diwrnod am ddim mynd i'r senedd oedd, "it's allowed" !