Y Cymry ar wasgar
Dydw i ddim yn arbenigwr ar ddeddfwriaeth ieithyddol. A dweud y gwir mae'n ddigon i hela pendro ar rywun!
Cymerwch rhywbeth mor syml a'r cwestiwn "ydy'r Gymraeg yn iaith swyddogol ai peidio?" Fe achosodd hwnnw gryn ddadlau yn ôl yn 1993 wrth drafod y mesur iaith.
Y broblem oedd, yn ôl y Swyddfa Gymreig, nad oedd na unrhyw ddeddfwriaeth yn datgan bod Saesneg yn iaith swyddogol. Fe fyddai roi'r statws honno i'r Gymraeg yn ei dyrchafu'n uwch na'r iaith fain. Yr ateb deddfwriaethol oedd datgan y dylai'r ddwy iaith gael eu trin yn gyfartal yng Nghymru.
Oes rhywun wedi dweud wrth y Swyddfa Dramor? Mae gwefannau llysgenadaethau y Deyrnas Unedig i gyd yn cynnwys adran o'r enw " i gyflwyno'r lle i drigolion lleol. Dyma sydd gan y Swyddfa Dramor i dweud am ieithoedd swyddogol y DU;
"Britain's 2 official languages are English and Welsh, English being the most widely spoken. Gaelic is also spoken in some parts of Scotland."
Dim cyfeiriad at gyfartaledd yn fan yna- a dim cyfeiriad at "yng Nghymru" chwaith!
Mae hynny'n codi ambell i gwestiwn bach diddorol, wrth gwrs. Os ydy'r Gymraeg, fel y Saesneg, yn iaith swyddogol y deyrnas gyfan ym marn y Swyddfa Dramor pam nad yw "About the UK" yn ddwyieithog? Yn bwysicach efallai pam nad yw'r Swyddfa Dramor wedi ceisio sicrhau cyfartaledd i'r Gymraeg a'r Saesneg yn sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd?
SylwadauAnfon sylw
Dyma i chi enghraifft arall o ddi-faterwch y gyfundrefn Seisnig ar bobl Cymru a'r Gymraeg, Annibyniaeth ydy'r unig gam ymlaen yn fy marn i.
Camgymeriad, dyna'r cyfan. Trueni serch hynny nad oes i ddatganiadau o'r fath rym cyfreithiol.