´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Trioedd...

Vaughan Roderick | 12:31, Dydd Sadwrn, 30 Ionawr 2010

_405047_dontouhig300.jpg1. Dyddiau'n unig ar ôl i fi nodi cyn lleied o aelodau seneddol Llafur o Gymru sy'n ymddeol (o gymharu a Lloegr, hynny yw) dyma i chi Don Touhig yn cyhoeddi ei fod am roi'r gorau iddi.

Rwy'n synnu braidd gan fod sedd seneddol Islwyn yn ddigon diogel a Don ei hun ond yn ei chwedegau cynnar. Cafodd ei losgi braidd gan yr helyntion ynghylch treuliau. Efallai mai dyna yw'r rheswm.

2. Gan aros yng Ngwent mae Dai Davies AS wedi dad-gofrestru plaid "People's Voice-Torfaen" chwaer-blaid un Blaenau Gwent. Mae'n debyg bod fersiwn Torfaen wedi troi'n dipyn o lanast.

3. Mae "Google Translate" yn rhemp! Mae gwefan newyddion Cymraeg newydd wedi ymddangos. Mwynhewch y ""! a'i phrif stori "Tyllau Tri dyn i gyfarfod y dyn Ipswich iddo achub bywyd â rhoi mêr esgyrn"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:03 ar 30 Ionawr 2010, ysgrifennodd Barry Taylor:

    Mae Touhig yn mynd? Gwych! Bydd yr amgueddfa leol yn cadw lle iddo gyda'r deinosoriad eraill, siwr o fod.

  • 2. Am 22:45 ar 1 Chwefror 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Mae cryn dipyn o son wedi bod yn ddiweddar am restri menywod yn unig a gwyddom bod hyn yn ddadleuol mewn nifer o etholaethau. Tybed a fyddai modd goresgyn y sialens drwy gael dwy restr yn yr etholaeth un o ferched ac un o ddynion. Gyda chyfarwyddyd fod yn rhaid pleidleisio dros un dyn ac un ferch, ac y byddai papurau gydag un bleidlais yn cael eu diystyru. Gellid yna ethol y sawl gyda'r nifer uchaf o bleidleisau (fyddai yn ffafrio menyw os y byddai nifer fach ohonnynt yn cystadleu). Opsiwn arall fyddai gorfodi pleidlais arall rhwng y dyn ar ferch uchaf.

    Gwn na fyddai yn sicrhau fod merched yn cael ei hethol ond fe allai ddyrchafu'r cyfle a byddai yn llai dadleuol na rhestr menywod yn unig.

    Cymeraf na fyddai y fath system yn gweithio neu mi fyddai rhywun wedi ceisio ei defnyddio.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.