Eira Ddoe
Roedd hi'n anorfod efallai y byddai'r ffaith bod Peter Rogers yn ôl yn y newyddion yn esgor ar rannu atgofion ynghylch y gwleidydd hynod hwnnw a'i gyfnod fel aelod cynulliad.
Pwy all anghofio'r perl yma o Dachwedd 2002. er enghraifft?
Kirsty Williams: You are out of time, Peter.
The Deputy Presiding Officer: Order. I am well aware that the clock says five minutes and 18 seconds. I thank you for trying to help, but I am aware of the time. Peter, you must wind up.
The First Minister: He is talking bollocks.
Peter Rogers: I am not talking bollocks at all, First Minister. [ASSEMBLY MEMBERS:'Oh.']
Wrth gwrs yn y dyddiau hynny roedd y Cofnod yn cael ei gyfieithu. Dyma'r fersiwn Gymraeg.
Kirsty Williams: Mae eich amser ar ben, Peter.
Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Gwn yn iawn fod y cloc yn dangos pum munud a 18 eiliad. Yr wyf yn ddiolchgar ichi am geisio cynorthwyo, ond yr wyf yn ymwybodol o'r amser. Peter, mae'n rhaid ichi ddirwyn i ben.
Y Prif Weinidog: Mae'n malu cachu.
Peter Rogers: Nid wyf yn malu cachu o gwbl, Brif Weinidog. [AELODAU'R CYNULLIAD: 'O.']
Mae colled ar ei ôl!