Poeri Gwaed ym Mhowys
Mae Cyngor Powys yn ystyried cynlluniau dadleuol i gau hyd at saith o ysgolion uwchradd.
Does dim angen fod yn broffwyd i wybod y bydd y cynlluniau yn hynod ddadleuol. Does dim dwywaith y bydd y ddadl yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch etholiadol ym Maldwyn a Brycheiniog a Maesyfed lle mae'r Torïaid yn herio'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Eisoes mae'r Ceidwadwyr wedi neidio i mewn i'r ffrae gan addo brwydro i gadw'r ysgolion ar agor. Mae Kirsty Williams hefyd wedi ymosod ar y cynlluniau a gellir disgwyl datganiadau tebyg gan Lembit Opik a Roger Williams.
Mae Cyngor Powys yn cael ei redeg gan glymblaid o gynghorwyr annibynnol a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Jyst dweud.