Yr het bluog
Un o arferion Nick Bourne yw cyfeirio at Peter Hain fel y "Governor General". Mae'n derm braidd yn rhyfedd i geidwadwyr ei ddefnyddio. Gellid disgwyl y peth gan ambell i bleidiwr ond mae'n rhyfedd braidd i'w glywed ar wefusau rhywun o anian unoliaethol.
Gofynnais i Nick heddiw a fyddai'n trosglwyddo'r het bluog i Cheryl Gillan pe bai hi'n Ysgrifennyd Gwladol. Mynnodd na fyddai gan esbonio mai gwawdio agwedd nawddoglyd honedig Peter Hain tuag at y Cynulliad yw ei fwriad nid dirmygu swydd yr Ysgrifennydd Gwladol.
Digon teg, efallai. Wedi'r cyfan dyw Peter ddim wedi mynd allan o'i ffordd i wneud cyfeillion ar y meinciau Ceidwadol. Doedd Nick ddim hyd yn oed yn gwybod bod gan Peter swyddfa mewn adeilad cyferbyn a'r cynulliad nes i ryw un ddweud hynny wrtho heddiw! Mae hyd yn oed newyddiadurwyr yn cae eu gwahodd i'r fangre honno!
Dyw e ddim yn ymddangos bod Carwyn Jones yn or-awyddus i drafod a'r Torïaid chwaith. Wythnos yn ôl fe wrthododd Carwyn ddweud a fyddai'r bleidlais ynghylch refferendwm ar Chwefror y nawfed yn un a fyddai'n cwrdd â gofynion Deddf Llywodraeth Cymru. Fe fyddai hynny wrth gwrs yn golygu cychwyn y broses swyddogol a fyddai'n arwain at refferendwm yn yr hydref.
Y rheswm am yr aneglurder, yn ôl Carwyn, oedd yr angen i drafod a'r gwrthbleidiau. Dyw'r trafodaethau hynny heb ddigwydd eto. Yn wir doedd y Democratiaid Rhyddfrydol ddim wedi clywed gair gan y llywodraeth tan toc cyn eu cynhadledd newyddion heddiw- cynhadledd lle'r oedd y blaid yn bwriadu gofyn beth gebyst oedd yn mynd ymlaen!
Mae'n ymddangos bod Carwyn mewn ychydig o dwll. Mae 'na arwyddion plaen nad yw Ieuan Wyn Jones yn fodlon derbyn unrhyw beth llai na phleidlais swyddogol er y byddai hynny yn groes i ddymuniadau Peter Hain.
Ar ddiwedd y dydd mae'n debyg y bydd yn rhaid i Carwyn bechu naill ai Ieuan neu Peter. Ai'r "country solicitor" neu'r "Governor General" fydd yn cael ei siomi? Fe gawn weld.
SylwadauAnfon sylw
Dyweder bod Carwyn yn dewis pechu Ieuan, a fyddai hynny'n chwalu'r glymblaid? Gydag Etholiad i San Steffan ar y gorwel, a fyddai'r Blaid ar eu hennill neu ar eu colled o naull ai gorfodi etholiad Cynulliad buan, neu o ffurfio clymblaid gyda'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Wrth-Gina-Ford.
Fel yt ti'n hoffi gweud, Vaughan - jyst gofyn!
Dwi'n meddwl mai brinkmanship yw'r disgrifiad cywir o'r sefyllfa! Dydw i ddim yn gweld y glymblaid yn chwalu ond pwy wnaiff ildio...