Trioedd Ynys Echni
1. Mae cyd-ddigwyddiadau'n digwydd mewn gwleidyddiaeth. Heno fe fydd aelodau Rhwydwaith Amgylcheddol Sir Benfro yn cynnal eu cyfarfod blynyddol. Yr Aelod Cynulliad Angela Burns sy'n cadeirio'r sesiwn gyda siaradwraig wadd yn trafod dyfodol cynhyrchu ynni yn sir.
Pwy yw'r siaradwraig? Jane James, rheolwraig purfa olew Chevron.
2. Mae 'na hiraeth ar ôl Rhodri Morgan ar y meinciau Llafur. Beth bynnag oedd ei ffaeleddau yng ngeiriau un aelod Llafur "o leiaf doedd e ddim yn mynnu cael gwybod cynnwys ein cwestiynnau o flaen llaw". At beth a phwy yr oedd yr aelod yn cyfeirio tybed?
3. Mae dau o ohebwyr CF99 wedi cyhoeddi eu bod wedi dyweddio. Nid gyda'i gilydd er y byddai Owain Clarke ac Arwyn Jones yn bâr pert. Llongyfarchiadau i'r ddau.