Fflio heibio
Mae 'na fantra cyson yn cael ei glywed gan weinidogion sef bod y llywodraeth am greu "World Class Wales". Mae gwella'r system drafnidiaeth yn rhan o hynny ac un o'r gwelliannau hynny yw'r cysylltiad awyr rhwng y Fali a Chaerdydd neu "IeuanAir" fel mae pawb yn galw'r peth. Pa mor "world-class" yw'r gwasanaeth hwnnw?
Mae ambell i ddarlledwr a gwas sifil yn amheus. Wedi'r cyfan mae angen dipyn o athrylith i lwyddo i golli bagiau teithwyr rhywle rhwng Môn a Morgannwg. Yng ngeiriau un teithiwr yn anffodus "nid b***i Gatwick yw'r Fali, wedi'r cyfan!"
I fod yn deg mae'n debyg mai ddoe oedd y tro cyntaf i'r fath beth ddigwydd. Serch hynny gyda'r cytundeb yn cael ei adolygu ar hyn o bryd mae'n anffodus bod y cwmni wedi pechu ambell i bwysigyn!