air
Dyw pobol Plaid Cymru erioed wedi bod yn or-hoff o'r enw "Ieuanair" ar y gwasanaeth awyr rhwng y Fali a Chaerdydd. Mae'r pleidwyr yn llygaid eu lle wrth ddweud bod y gwasanaeth wedi cychwyn cyn ffurfio'r glymblaid. Ar y llaw arall doedd y blaid ddim yn cwyno'n ormodol am y llysenw cyn i Highland Airways fynd i drafferthion!
Ta beth fe fydd y llywodraeth yn cynnig tender dros dro i gynnal y gwasanaeth ddydd Llun yn y gobaith o ail-gychwyn hedfan yn fuan wedi'r Pasg.
Ond o ble y daw achubiaeth ? Yn y siambr ddoe honnodd un A.C ei fod wedi clywed bod y llywodraeth yn ystyried gwasanaeth hofrennydd. Byswn i'n tybio bod hynny'n annhebyg o ystyried y gost a pherfformiad anwadal y dechnoleg mewn tywydd garw. Ta beth, os oedd Ieuan yn casáu "Ieuanair" siawns y byddai'r holl jôcs am "chopars" gan waith gwaith.
Ar y diwrnod y daeth achubiaeth posib i newyddion ITV Cymru o du hwnt i Fôr Iwerddon ai o'r cyfeiriad hwnnw y daw achubiaeth air hefyd? Un ymgeisydd amlwg i gamu i'r bwlch yw cwmni sydd a'i wreiddiau'n ddwfn yn y Gaeltacht sef .
Ers rhai blynyddoedd bellach hwn yw'r cwmni fu'n darparu gwasanaethau awyr rhwng Caerdydd a'r weriniaeth. Yn ddiweddar arwyddodd y cwmni i ddatblygu'r gwasanaethau ymhellach yn fwyaf arbennig er mwyn marchnata gwasanaethau rhwng Cymru a Gogledd America trwy Ddulyn.
Ers tro byd mae hyrwyddwyr maes awyr Môn wedi bod yn ceisio sicrhau cysylltiad rhwng y Fali a Dulyn. A fydd tranc Highland Airways yn dod a'r freuddwyd gam yn agosach? Gan fod ei wraig yn Wyddeles efallai y byddai "Carwynair" yn enw addas i'r gwasanaeth hwnnw. Gallai neb gwyno wedyn!
SylwadauAnfon sylw
Vaughan,
dwi'm yn rhy siwr am be ydych yn son am Aer Arann. Allwch chi ehangu eich pwynt?
Joc ynta ydy chwi'n wir yn dweud bod Aer Arann yn meddwl hedfan o Fon!?
Fe fyddai'n rhyfeddod pe na bai'r cwmni'n ystyried hynny- ond fedra i ddim dweud gormod!