Dafydd yn doethinebu
Yr unig ddarn o fusnes go iawn yn y Cynulliad heddiw oedd dadl ynghylch y mesur i sefydlu corff annibynnol i bennu taliadau'r aelodau. Gwireddu argymhellion Pwyllgor Syr Roger Jones mae'r mesur a chan fod y pleidiau i gyd yn ei gefnogi doedd dim lot o ots bod meinciau'r llywodraeth yn wag.
Fel y nodais i ddoe, roedd y Llywydd yn bresennol gan ymateb i'r ddadl o'i sedd ar lawr y siambr tra bod William Graham yn llywio pethau o'r set fawr. Cyhoeddodd Dafydd Elis Thomas ei fod yn bwriadu derbyn argymhellion y pwyllgor craffu sydd wedi bod yn ystyried y mesur.
Wrth gwrs dyw Dafydd ddim yn un sy'n gallu gwrthsefyll y temtasiwn i dynnu blew o drwyn. Fe wnaeth hynny heddiw trwy gyfeirio at weinidogion sy'n gwrthod syniadau da "ar y sail nad nhw oedd wedi eu cael nhw"!
Oedd e'n cyfeirio at unrhyw weinidog yn arbennig, tybed, ac ai drwg neu dda o beth oedd y ffaith nad oedd yr un Gweindiog yno i'w glywed?