Iaith Pawb
Ar ôl cyfnod beichiogi fyddai'n profi amynedd eliffant mae'r Mesur Iaith hir ddisgwyliedig yn cael ei groesawi i'r byd heddiw. Does 'na ddim llawer o gyfrinachau yn ei gylch mewn gwirionedd a dim llawer o barti i ddathlu'r cyhoeddiad chwaith.
Gan ddilyn cyngor Carwyn James mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei dial mewn o flaen llaw gan ryddhau'r datganiad yma o eiddo Menna Machreth.
"Fe addawodd y llywodraeth hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg. Byddai'r llywodraeth yn torri addewid pe na fyddant yn delifro hawliau megis yr hawl i addysg cyfrwng Cymraeg a'r hawl i siarad yr iaith yn y gweithle.
"Heb hawliau, unwaith eto bydd rhaid i bobl Cymru ddibynnu ar agwedd mympwyol gwleidyddion a swyddogion yn lle adeiladu ar ewyllys da pobl gyffredin. Mae hawl yn golygu bod modd i unigolyn sy'n siarad Cymraeg fynnu gwasanaeth a sicrhau newid os nad yw'n cael ei ddarparu: ni fydd safonau, ar y llaw, arall yn rhoi grym yn nwylo pobl."
Mae'r mesur yn gant trideg o dudalennau o hyd. Dydw i ddim wedi cael cyfle i'w ddarllen eto ond ar y cyfan mae gen i ragfarn yn erbyn deddfwriaeth hirfaith. Mae "gorau po symled" yn arwyddair da a beth bynnag yw'r Mesur iaith dyw e ddim yn syml!
SylwadauAnfon sylw
Ydy'r mesur ar gael ar-lein? Methu ffeindio fy hunan...
dim eto hyd y gwelaf i. Rhywbryd heddiw, mae'n siwr!
Mae PDF o'r mesur arlein fan hyn:
Y mesur a'r memorandwm esboniadol yma:
Ydy, mae'r Mesur i'w weld yma:
Cwbl annigonol ac yn torri dau o addewidion Cymru'n Un.
Hawliau Iaith? Mae mwy o sôn am "hawl" cyrff i gael eu heithrio o gynnig gwasanaethau dwyieithog na dim byd arall.
O ran statws swyddogol, mae'r Mesur yn cyfeirio at "statws swyddogol y Gymraeg" ond gan osgoi gwneud y Gymraeg yn ddim byd tebyg i fod yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Mae'r Mesur yn sefydlu Comisiynydd, ydy, ond yn gwbl wahanol i'r Comisiynydd Plant er enghraifft, sy'n annibynnol, bydd y Comisiynydd yn cael ei benodi gan y Prif Weinidog: penodiad gwleidyddol. Mae'r Mesur hefyd yn clymu'r Comisiynydd at y Llywodraeth mewn modd a fydd yn ei gwneud yn amhosibl i'r Comisiynydd weithredu heblaw yn ôl dymuniad Llywodraeth y dydd.
Ar ben hynny i gyd mae datganiadau'r Llywodraeth yn honni y BYDD hawliau iaith, a BOD hyn yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Hawdd deall pam y byddai Plaid Cymru am roi'r argraff bod y Mesur hwn yn ateb addewidion Cymru'n Un, ond celwydd yw hyn. Byddai Alastair Campbell yn falch iawn ohonyn nhw.
Does dim rhyfedd ei fod e'n fesur hirfaith - o ystyried nifer y pwyllgorau sydd wedi cael "gwella'r" mesur, y rhyfeddod yw nag yw e'n hirach. Oedd y ´óÏó´«Ã½ yn iawn i ddweud bod bwyddyn arall gyda ni i fynd cyn bo rhyw gyfle i'r mesur troi'n... ummm... Mesur.
Wedi gofyn hynny, mae pawb (ond am yr un adroddiad gan y ´óÏó´«Ã½) yn son am y mesur fel tase fe'n cael ei fabwysiadu heddiw. Ai Mesur, yntau Mesur arfaethedig sydd wedi gweld golau dydd? Oes dadlau i fod nawr ar lawr y Senedd, a chyfle i bobl Cymru gael rhyw fath o "look-in" ar y penderfyniadau?
Y broblem yw bod "mesur" yn troi'n "deddf" yn San Steffan. Rydym yn chwilio am eiriau hawdd ar gyfer y broses yng Nghymru sydd ddim yn ddryslyd. Mae "mesur arfaethedig" yn dipyn o lond ceg yn enwedig o'i ddefnyddio hanner dwain o weithiau mewn darn!