´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn glan briodas

Vaughan Roderick | 11:10, Dydd Mercher, 3 Mawrth 2010

_45068532_121d26a3-cd66-42a0-8cd3-e2c97754be80.jpgBeth bynnag arall sy 'na i ddweud am y tair blynedd ar ddeg o lywodraeth Lafur mae'n gyfnod sydd wedi bod yn fuddugoliaeth i foesoldeb rhyddfrydol. O safbwynt pobol hoyw yn unig, cafwyd cyfartaledd yn yr oed cydsyniad, cyflwyno partneriaethau sifil a gwneud anffafriaeth ar sail rhywioldeb yn anghyfreithlon.

Hyd y gwelaf i does neb ym myd gwleidyddiaeth yn dymuno troi'r cloc yn ôl. Yn wir mae David Cameron wedi defnyddio'r maes hwn fel rhyw fath o faen prawf ar gyfer rhyddfrydiaeth gymdeithasol ei blaid ei hun.

Ddoe cafwyd un mesur bach olaf cyn yr etholiad wrth i Dŷ'r Arglwyddi gyfreithloni cynnal seremonïau partneriaeth mewn adeiladau crefyddol a defnyddio iaith grefyddol yn seremonïau- eu troi nhw'n wasanaethau mewn geiriau eraill.

Y gwaharddiad crefyddol mewn gwirionedd oedd yr unig wahaniaeth rhwng partneriaethau sifil a phriodas ond mae'n anodd iawn dadlau yn erbyn rhesymeg yr Arglwyddi. Roedd y gyfraith fel oedd hi yn gwahardd crefyddau ac enwadau fel y Crynwyr a'r Undodiaid oedd yn dymuno cynnal seremonïau rhag gwneud hynny. Mewn geiriau eraill roedd y gyfraith yn ymyrryd yn eu ffydd, eu credoau a'u haddoliad. Fe fyddai gan Oliver Cromwell rywbeth i ddweud am hynny!

Yn y tymor byr wrth gwrs ychydig iawn o addoldai fydd yn cynnal gwasanaethau priodas hoyw. Mae'r Eglwys Gatholig yn gadarn yn erbyn y syniad tra bod yr Anglicaniaid wedi eu caethiwo mewn rhyw burdan o'u gwneuthuriad eu hun. Fe fydd yn Annibynwyr (wrth gwrs) yn gadael y peth i Eglwysi unigol.

Yr enwad mwyaf diddorol efallai yw'r Eglwys Bresbyteraidd. Mae polisi'r Eglwys ar bwnc tebyg , sef gwasanaethau i fendithio partneriaethau sifil ar gael yn . Mae'n ddogfen feddylgar a chytbwys gan roi ystyriaeth ddofn i ddiwinyddiaeth ac ystyriaethau bugeiliol. Hwn, dybiwn i, yw'r paragraff allweddol;

"Bernir bellach bod tueddiadau hoyw yn cael eu hamlygu mewn oddeutu 10% o'r boblogaeth, ac y mae'n amlwg erbyn hyn mai rhywbeth cynhenid i'r unigolyn yw tueddiadau o'r fath; nid rhywbeth y gall ei newid ydyw ... mwy nag y gall newid lliw ei
groen. Gan hynny, onid ffurf ar anffafriaeth yw i'r eglwys ymdrin â hoywon mewn ffordd wahanol i eraill? Onid yw penodau megis Actau 10-11 yn gosod esiampl o'r modd y dylai'r eglwys gyfoes ymestyn ei ffiniau ac ehangu ei gorwelion, gan dderbyn i'w chanol a bendithio pawb a dderbyniodd Grist i'w bywydau, beth bynnag fo eu tueddiadau rhywiol?"

Ar sail hynny rwy'n cymryd y bydd yr Hen Gorff yn hwyr neu'n hwyrach yn ymuno a'r Crynwyr a'r Undodiaid trwy agor drysau'r Capeli i seremoniau hoyw.

A fydd cyplau hoyw yn dylifo trwy'r drysau hynny? Go brin. Rhyw dri chant o bartneriaethau sifil sy'n cael eu cofrestru yng Nghymru bob blwyddyn gan awgrymu mai hawl symbolaidd yw hon yn hytrach nac un sydd o bwys ym mwydau dydd i ddydd y rhan fwyaf o bobol hoyw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.