Argraffiadau- Maldwyn
"Hed y gwcw, hed yn fuan
Hed aderyn glas ei liw
Hed oddi yma i Bantycelyn
Dwed wrth Mari mod i'n fyw.
Hed oddi yno i Lanfair 'Muallt
Dwed wrth Jac i gadw'i le
Ac os na chaf ei weled yma
Caf ei weled yn y ne"
Digon cyntefig oedd y gyfundrefn gyfathrebu ym Mhowys yn nyddiau'r hen Williams gyda'r per ganiedydd yn gorfod crefi ar aderyn i gario negeseuon at ei wraig a'i fab! Dyw pethau ddim lot gwell heddiw o safbwynt ffons symudol a band-lydan. Rhyw sut mae'r epistol yma o eiddo Owain Clarke wedi fy nghyrraedd o berfeddion cefn gwlad.
Diolch Vaughan am y cyfle i gyfrannu eto i dy flog.
Pan ges i'n 'orders' i bacio fy mag ac anelu tua'r canolbarth ar ddechre'r ymgyrch, yn naturiol, ro'n i'n gyffrous ond hefyd 'chydig yn betrusgar.
Ro'n ni'n ymwybodol fod y 'patch' yn anferth - mae Maldwyn, Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed, wedi'r cyfan, ymhlith yr etholaethau mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Ro'n ni'n disgwyl gorfod treulio oriau maith ar yr hewl - a byw allan o gist y car!
Ac wrth gwrs ro'n ni'n iawn - ma cloc y 'Mondeo' yn dangos 2000 milltir ers y dechre - a'r mwyafrif o'r rheiny os cofia'in iawn wedi'u treulio yn styc tu ôl i dractor!
Eto i gyd fi 'di joio - a hynny am fod pob un o'r etholaethau yn ddiddorol am wahanol resymau
Nawr ar bapur - fe ddyle Maldwyn fod yn eitha saff i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Lembit Opik yn amddiffyn mwyafrif o 7173 wedi'r cyfan.
Y cyn aelod cynulliad Ceidwadol Glyn Davies sy'n cynnig y prif her - er fod Glyn yn cydnabod ei hun fod "bowns" y Democratiad Rhyddfrydol ar ol y dadleuon prif weinidogol yn golygu bod Lembit yn cysgu 'chydig yn dawelach erbyn hyn. Fe fyddai Nick Colbourne yr ymgeisydd Llafur yn gwneud yn dda os yw'n llwyddo i ddal gafel ar 12% o'r bleidlais ond ma ymgeisydd Plaid Cymru Heledd Fychan yn ffyddiog y gall ei phlaid esgyn o'r pedwerydd safle.
Ond y cymeriadau lliwgar, y personoliaethau bywiog sy'n gwneud Maldwyn mor ddifyr i fi fel gohebydd eleni..
Dyma chi flas o'r ymgyrchu (a chyn i ti ofyn Vaughan ma da fi'r perlau canlynol i gyd ar dap!)
Lembit Opik (yn dosbarthu taflen etholiad ar stepen y drws i fenyw canol oed)
Lembit: "It says there, look - a true champion for Montgomeryshire"
Menyw: "I do know you, I've seen you around."
Lembit: "That's because I'm always working. I am to politics what you are to the tennis league"
Glyn Davies: "Os fyddai'n gallu perswadio pob un o fy nheulu i bleidleisio drosto fi - fe fyddai'n ennill - dim problem o gwbwl. Eto i gyd fi'n dod o fynyddoedd Llanerfyl... a mae nhw draw fanna yn pleidleisio Plaid Cymru bob tro"
Heledd Fychan: "Dwi'n credu bod pawb wedi cael llond bol o wleidyddion sy'n ymddwyn fel robots ac yn dweud pethe ma nhw fod i ddweud .... yn sicr gall neb gyhuddo Lembit, Glyn na fi o ddilyn y llinellau da ni fod ddilyn trwy'r amser"
Cyn heddwas ac Ynnad Heddwch yw'r ymgeisydd Llafur Nick Colbourne. Fe fyddai e, mae'n siwr gen i, yn fodlon cydnabod nad yw e'n gymeriad cweit mor lliwgar ar lleill. Eto'i gyd er lles cydbwysedd:
"I am not thinking of a hung Parliament. I am a realist but I'm still not thinking of a hung Parliament and I certainly haven't. Or if I have - I'm not going to tell you."
Pasiwch y popcorn!
SylwadauAnfon sylw
"Ro'n ni'n ymwybodol fod y 'patch' yn anferth - mae Maldwyn, Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed, wedi'r cyfan, ymhlith yr etholaethau mwyaf yng Nghymru a Lloegr."
Oes rhaid i ohebwyr y ´óÏó´«Ã½ o hyd i ddweud 'England and Wales'. Ond efallai fod y bod mawr wedi penderfynnu taw fel hyn y mae i fod; gwrandewch ar ohebwyr tywydd y ´óÏó´«Ã½....mae'r tywydd yn ol nhw o hyd yr un peth yn 'EnglandandWales' bob dydd o'r flwyddyn! O leia mae Owain Clarke yn dweud 'Cymru a Lloegr' sbo.
Gem gyfartal ddisgor heno dwi yn meddwl. Toedd Brown ddim mor sal a'r polau piniwn cyntaf ond dwi yn meddwl fod y polau piniwn yn awgrymu fod y gefnogaeth gwrth Brown yn cledu a bod y cyfle i adennill tir wedi diflannu yr hyn sydd ar ol bellach yw sicrhau nad ydynt yn llithro ymhellach. Dwi yn meddwl fod angen i rhywun atgoffa Brown i beidio gwennu mae yn edrych llawer rhy debyg i'r Jocker ar Batman erstalwn ac roedd o yn fy nychryn i bryd hynny.
Dim ond wythnos i fynd be wnawn i wedyn. Rhaid fydd trefnu parti i lawenhau neu i geisio boddi ei gofidau !!!!