´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Seddi gweigion, sibrydion a phatrwm, efallai

Vaughan Roderick | 10:31, Dydd Gwener, 30 Ebrill 2010

FT.jpgRwy'n ffaelu credu fy mod wedi gwneud! Roeddwn i'n cadeirio fforwm etholiadol yng Nghaerdydd neithiwr a sylweddolais ar ôl cyrraedd gartref fy mod yn dal i wisgo'r meicroffon radio! Gobeithio na wnes i ddweud unrhyw beth o le!

Beth bynnag am hynny, rwyf wedi nodi o'r blaen y cynnydd aruthrol yn y nifer o gyfarfodydd aml blaid yn yr etholiad hwn, cyfarfodydd sydd wedi eu trefnu gan amlaf gan elusennau neu eglwysi.

Roedd oddeutu cant yn y cyfarfod neithiwr a'r unig biti oedd mai dim ond dau ymgeisydd (Alun Michael a Jake Griffiths) oedd yn bresennol. Nawr rwy'n deall iawn bod ymgeiswyr efallai yn teimlo eu bod yn gallu cwrdd â rhagor o bobol trwy droedio'r strydoedd ond mae derbyn gwahoddiad ac yn danfon cynrychiolydd ar y funud olaf yn siabi braidd.

Fe glywais i ragor o sibrydion neithiwr i ychwanegu at y dwsinau o rai eraill yr wyf wedi pigo i fyny yn ystod y dyddiau diwethaf.

Dydw i ddim yn talu gormod o sylw i bethau sy'n cael eu sibrwd yn fy nghlust. Mae 'na ddigon o resymau i wleidyddion gamarwain newyddiadurwyr. Maen nhw'n gallu bod yn gyfan gwbl anghywir hefyd. Rwyf wedi son o'r blaen am y ffenomen rhyfedd lle mae bron pob ymgeisydd sy'n sefyll am y tro cyntaf yn argyhoeddiedig eu bod am ennill. Mae ambell i hen law yn gallu suddo'n ddwfn i bydew pesimistiaeth hefyd.

Ar ôl dweud hynny mae 'na batrwm i'r sibrydion ar hyn o bryd. Rwyf wedi clywed pethau fel "Gorllewin Abertawe wedi mynd", "talcen caled iawn yng Ngorllewin Caerdydd", "Llanelli'n closio" a "phopeth yn iawn yn Wrecsam" dros y dyddiau diwethaf.

Mae'r sibrydion hynny, ynghyd ac eraill, yn awgrymu bod Llafur yn poeni am etholaethau ymhell y tu ôl i'w rheng flaen. Fe ddaw'r sibrydion hynny o bobol Lafur yn bennaf ond hefyd gan y pleidiau eraill.

Does wybod ai gwir ai gau yw'r sibrydion ond mae'r ffaith mai etholaethau fel rhain sy'n cael eu trafod ynddi ei hun yn ddiddorol. Sylw nid proffwydoliaeth sy gen i. Os ydych chi'n poeni am Harlech mae Sycharth a Glyndyfrdwy eisoes yn lludw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:44 ar 30 Ebrill 2010, ysgrifennodd david jones:

    vaughan ydy'r gair yn dy glust am gorllewin caerdydd yn meddwl mae'n agos rhwng toriaid ac llafur dwi ddim cweit yn deall?

  • 2. Am 15:23 ar 30 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ydy, mae'r Ceidwadwyr wedi dwyshau eu hymgychu yn yr etholaeth gan gredu ei bod hi'n ennilladwy. Yn ol mwy nac un Llafurwr mae'r blaid yn teimlo o dan rhyw faint o bwysau yno.

  • 3. Am 17:07 ar 30 Ebrill 2010, ysgrifennodd David Jones:

    Yn llanelli hefyd ydyr gair yn dweud fod plaid cymru ar fin ei cymryd gan margin fach iawn, dwin byw yn gorllewin caerdydd a maer pleidlais yn splitio rhwng plaid a'r domocratiaid yn myn i gadael y toriaid mewn dwin meddwl

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.