2011
Ydy hi'n rhy gynnar i feddwl am yr etholiad nesaf? Nac ydy, dyw hi byth yn rhy gynnar i wneud hynny!
Mae'n bosib wrth gwrs mai ail Etholiad Cyffredinol fydd yr ornest nesaf. Hyd yn oed os nad yw hynny'n digwydd fe fydd digwyddiadau yn San Steffan yn sicr o gael effaith ar etholiad Cynulliad 2011. Yr etholiad hwnnw yw testun y post yma. Mae 'na ambell i beth i nodi ynghylch ras flwyddyn nesaf yn sgil canlyniadau fore Gwener a'r ffaith ryfedd yw eu bod nhw i gyd yn newyddion drwg i Lafur!
Nawr, efallai ei bod hi'n ymddangos braidd yn droedig i mi ddweud bod etholiad lle wnaeth y blaid Lafur yn well na'r disgwyl yng Nghymru'n argoeli'n wael ar gyfer flwyddyn nesaf ond gadewch i mi gyflwyno'r ddadl cyn i chi dwt lolio!
Fe wna i ddechrau trwy droi'r cloc yn ôl i 2007 ac edrych ar ganlyniadau etholiad y flwyddyn honno. Enillodd Llafur 26 sedd yn yr etholiad hwnnw neu 43% o'r cyfanswm gyda 32.2% o'r bleidlais. Mae'r anghyfartaledd rhwng y canran o seddi a'r canran o'r bleidlais yn deillio o natur system etholiadol y Cynulliad, cyfundrefn sydd ond yn rannol gyfrannol.
Yn y bôn y broblem (neu'r fendith os ydych chi'n berson Llafur) yw nad oes 'na ddigon o seddi rhestr yn y rhanbarthau deheuol i ddigolledu'r tair plaid arall am eu methiant i ennill seddi etholaethol. Yn 2007 roedd pob sedd etholaeth ac eithrio Mynwy, Blaenau Gwent a Gogledd a Chanol Caerdydd yn y golofn Lafur ac mae Blaenau Gwent yn debyg o ddychwelyd i Lafur y tro nesaf.
Mae mathemateg y rhestri yn gweithio er lles Llafur yn rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth yn barod. Fe fyddai'r un peth yn digwydd yn y Gogledd i ryw raddau pe bai'r hwch yn mynd trwy'r siop. Yr unig ffordd mewn gwirionedd i'r blaid ennill lai na 24-25 sedd yn y Cynulliad yw trwy golli seddi etholaethol yn rhanbarthau'r De, lle na fyddai'r rhestri yn digolledu'r blaid. Ar sail canlyniadau fore Gwener gallai'r union beth hynny ddigwydd.
Fe fydd y Ceidwadwyr yn weddol hyderus ynghylch Bro Morgannwg flwyddyn nesaf ac yn llygadu ambell i sedd arall megis Gorllewin Caerdydd a Gŵyr. Mae'n sicr y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn awchu am ail gyfle i ennill Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd ac yn meddwl o ddifri am gipio Pontypridd a Merthyr. Dyw Castell Nedd ddim tu hwnt i gyrraedd Plaid Cymru a dyw sioc yn rhywle fel Cwm Cynon neu Gaerffili ddim yn amhosib.
Fe fyddai colli'r seddi hynny neu rai ohonyn nhw yn "golledion go iawn" i Lafur o safbwynt y niferoedd yn y Bae. O dan y fath amgylchiadau dyw hi ddim yn amhosib i nifer yr aelodau Llafur yn y Bae ostwng i ryw ugain.
Mae hi'r un mor bosib, wrth gwrs, y gallai amgylchiadau gwleidyddol ehangach olygu bod Llafur wedi adennill ei phoblogrwydd erbyn Mai 2011 ac yn gallu anelu am fwyafrif.
Y cyfan dwi'n dweud yw hyn. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos y gallai etholiad 2011 fod yn fwy agored nac unrhyw un o etholiadau blaenorol y Cynulliad.
SylwadauAnfon sylw
Yn gynta i gyd, diolch i chi Vaughan am y blog a diolch i'r cyfranwyr eraill hefyd, am drafodaeth gall a pharchus ar yr etholiad.
Nawr, ydy hi'n rhy gynnar i drafod y leciswn nesa, meddech chi.
Nac ydy, mae'n debyg. Hyd yn oed cyn etholiad y Cynulliad, efallai y bydd Llywodraeth San Steffan yn gorfod rhoi cyfle arall i'r bobl lefaru.
Oes unrhyw un yn credu bod y Rhyddfrydwyr yn blaid ddigon disgybledig i sicrhau naill ai bod eu ei hasgell chwith yn cefnogi Cameron, neu fod ei hasgell dde yn cefnogi olynydd Brown am fwy nag ychydig fisoedd?
A bwriwch fod y Toris a'r Rhyddfrydwyr yn cyd-lywodraethu, ac yn cyd-dorri ffwl-pelt, onid ydy hynny'n mynd i arwain at fwy o gefnogaeth i Lafur yn 2011 mewn llefydd fel Merthyr lle mae Vaughan yn credu bod gan Rhyddfrydwyr obaith?
Efallai fod hwn wedi bod yn etholiad da i'w golli i'r blaid Lafur?