OS...
Mae heddiw yn ddiwrnod lle mae gwleidyddion a newyddiadurwyr gwleidyddol yn dal eu hanadl. Does gen i ddim byd mawr i ddweud ond rwyf am ddweud pwt bach ynghylch un ystadegyn sydd yn cael tipyn i sylw.
Fe gynhyrchwyd yr ystadegyn gan ein cyfeillion Rallings a Thrasher ac mae'n gyfan gwbl gywir. Mae'r ddau yn nodi y byddai gan y Ceidwadwyr fwyafrif yn NhÅ·'r Cyffredin pe bai 16,000 o bobol mewn 19 etholaeth wedi pleidleisio'n wahanol. Mae casgliadau'r ddau wedi derbyn gryn sylw yn y ac ar sy'n eu defnyddio fel arwydd bod y Ceidwadwyr wedi ennill buddugoliaeth foesol.
Yr ymateb cywir, yn fy marn i, i ystadegau o'r fath yw "a'ch pwynt yw?"
O dan system gyntaf i'r felin mae ystadegau fel yr un yma yn anorfod mewn etholiad agos.
Yn 1992, er enghraifft fe enillodd John Major a mwyafrif o 21 sedd. Dydw i ddim yn cofio'r union nifer ond fe fyddai ychydig filoedd o bleidleisiau gwahanol mewn un ar ddeg sedd wedi golygu senedd grog.
Yn yr un modd, yn yr etholiad yma rwy'n sicr y byddai'n bosib cynhyrchu ystadegyn yn dangos y byddai ychydig ddegau o filoedd o bleidleisiau yn y mannau cywir wedi golygu mai Llafur ac nid y Ceidwadwyr fyddai'r blaid fwyaf.
Y pwynt sylfaenol yw bod 'na elfen o hap a damwain a lwc ac anlwc yn ein system etholiadol ac ar ddiwedd y dydd ennill yw ennill a cholli yw colli.
Gofynnwch i Jonathan Evans am hynny. Ef yw'r gwleidydd Prydeinig sydd wedi gorfod wynebu ail-gyfri'r pleidleisiau'n yn fwy aml na neb arall. Fe wnaeth e ennill a cholli o drwch blewyn ym Mrycheiniog a Maesyfed ac yna gorfod goddef ail-gyfri yng Ngogledd Caerdydd y tro hwn.
Fe ddywedodd Jonathan yn ei araith yng nghyfri Gogledd Caerdydd fod y ffordd y mae ymgeisydd neu blaid yn colli yn gymaint o fesur o'u cymeriad ac yw'r ffordd y maen nhw'n dathlu buddugoliaeth. Mae'n amlwg bod Jonathan yn nabod ei Rudyard Kipling ac wedi ei drwytho yn athroniaeth "IF...", ond mae'n bwynt digon teg.
Mae gan y Ceidwadwyr le i gwyno am degwch y gyfundrefn etholiadol bresennol heb orfod dadlau dros system gyfrannol. Mae'r gwahaniaeth rhwng nifer yr etholwyr yn etholaethau Cymru a rhai Lloegr yn un enghraifft o hynny. Yn ogystal â'r ddadl ynghylch cynrychiolaeth gyfrannol felly, mae 'na ddadl i'w chael ynghylch ffyrdd o sicrhau bod y system gyntaf i'r felin yn gweithio'n well.
Ar ôl dweud hynny dyw ystadegyn fel un Rallings a Thrasher a breuddwydion ynghylch yr "oni bai" ddim mewn gwirionedd yn cyfrannu at y ddadl honno.
SylwadauAnfon sylw
Os arall.... Mae'r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi dadansoddi sut olwg fyddai ar Dy'r Cyffredin gyda threfn bleidleisio gyfrannol STV. Mae'r manylion ar eu gwefan.
Yr hyn darodd fi yn fwy na dim oedd y gwahaniaeth rhwng nifer y seddau i Blaid Cymau a'r SNP o dan drefn STV. Byddai gan Blaid Cymru 4 sedd a'r SNP 13 sedd, o gymharu a 3 a 6 nawr. Rhywbeth arall i gnoi cil arno cyn etholiad y Cynulliad.