Dringo'r ysgol
Rwy'n gwybod bod ambell i ddarllenydd yn credu bod saga addysg Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd yn rhyw ffrae fach leol nad yw'n haeddu ei lle ar y dudalen hon. Os ydych chi'n un ohonyn hwn rhowch orau i ddarllen y post yma nawr!
Bwriad y Cyngor yw cau Ysgol Landsdowne a defnyddio'r adeilad fel cartref newydd i blant Ysgol Gymraeg Treganna ac uned Tan yr Eos. Hwn oedd cynllun a ddisgrifiwyd fel "ethnic cleansing" gan y cynghorydd Llafur, Ramesh Patel yn Chwefror 2009.
Cyhoeddwyd y cynlluniau yn ôl yn 2007 ac fe wnaeth y Cyngor eu cymeradwyo ym Mai 2009. Yn ôl amseroedd targed y Cynulliad fe ddylai'r Llywodraeth wedi cymeradwyo'r cynllun neu ei wrthod o fewn chwe mis.
Mae pawb yn dal i ddisgwyl.
Ychydig fisoedd yn ôl mynnodd y gweinidog Addysg Leighton Andrews nad oedd y penderfyniad wedi "cyrraedd ei ddesg". Ei ddesg, sylwch. Desg Leighton. Nid desg neb arall.
Mewn llythyr i Chris Franks AC ar ddiwedd Ebrill fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai Leighton Andrews yn gwneud penderfynniad "yn fuan". Leighton Andrews. Neb arall.
Nawr beth yw hyn. Dyma ran o ateb ysgrifenedig gan Leighton Andrews i Nerys Evans AC wedi ei ddyddio Mai'r 19eg.
"Y Prif Weinidog fydd yn penderfynu ar gynigion sy'n ymwneud â chau Ysgol Gynradd Lansdowne ac Ysgol Tan yr Eos, trosglwyddo, ehangu ac ymestyn ystod oedran Ysgol Treganna, ac ehangu ac ymestyn ystod oedran Ysgol Gynradd Radnor.
Nid yw'n bosibl i mi ddweud pryd y gallai'r penderfyniadau gael eu gwneud ar y materion hyn. Dim ond pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi'i chasglu a'i hasesu ac y caiff casgliadau cadarn eu llunio y caiff penderfyniadau eu gwneud."
Beth ddigwyddodd i ddesg Leighton, tybed? Pam mai'r Prif Weinidog sy'n gorfod penderfynu?
Y ffaith bod plant Leighton wedi mynychu Ysgol Treganna sy'n gyfrifol am hynny yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth. Digon teg. Ar y llaw arall mae'r rheiny yn eu hugeiniau nawr a doedd hi ddim yn ymddangos yn broblem cyn hyn.
Wrth gwrs, mae'n bosib mai newydd gofio i ba ysgol yr aeth ei blant mae Leighton!
SylwadauAnfon sylw
Wrth gwrs, ni fydd Llywodraeth y Cynulliad am wneud penderfyniad am sbel go hir nawr, nid nes bod y refferendwm ar ragor o bwerau i'r Cynulliad wedi'i gynnal yn yr hydref. Pwy lywodraeth fyddai am gythruddo rhieni di-Gymraeg (a pheidleiswyr yn y Refferendwm) Treganna drwy ddweud bod eu hysgol yn gorfod cau (rhywbeth fydd yn gorfod digwydd yn y pen draw)a phleidlais am ragor o bwerau ar y gorwel? Na, bydd y gwleidyddion yn dod o hyd i ragor o esgusodion (a da o beth os ydych o blaid Cynulliad cryfach) tan hynny.