Demograffia
Pan oeddwn i'n grwt yn ôl yn y chwedegau un o'r cyfresi comedi mwyaf poblogaidd a mwyaf dadleuol oedd "Till Death Us Do Part". Y gyfres honno wnaeth greu'r anghenfil rhyfedd hwnnw Alf Garnett gyda'i safbwyntiau hiliol a'i ragfarnau hyll.
At ddibenion dramatig, dybiwn i, portreadwyd Garnett fel Ceidwadwr oedd yn ffraeo byth a hefyd a'i fab yng nghyfraith sosialaidd. Mewn gwirionedd mae'n debycach y byddai'r hen Alf yn pleidleisio i Lafur. Mae rhan helaeth o gefnogaeth y blaid honno'n dod yn draddodiadol o bleidleiswyr dosbarth gweithiol sy'n llwythol Llafur ond sy'n arddel daliadau gwahanol iawn i rhai arweinwyr y blaid ynghylch pynciau megis cyfraith a threfn, mewnfudo a rhywioldeb.
Doedd hi ddim yn llawer o gyfrinach bod ambell i wleidydd yn dawel ddirmygu'r bobol yma tra'n dibynnu ar eu cefnogaeth. Erbyn hyn dyw'r peth ddim yn gyfrinach o gwbwl. Fe wnaeth cwpwl o eiriau gan Gordon Brown mewn cefn car disbyddu'r hynny o gyfrinachedd oedd yn bodoli!
Mae'r fath yma o bleidleiswyr yn bodoli ym mhob gwlad. Roedd Archie Bunker yr un mor boblogaidd ymhlith gwylwyr teledu America ac oedd Alf Garnett ym Mhrydain! Bodolaeth y bobol yma sy'n esbonio poblogrwydd cymeriadau fel Sarah Palin a "Joe the Plumber".
Yn ddiweddar bues i'n darllen llyfr o'r enw "" ynghylch y ffenomen yn yr Unol Daleithiau.
Yn y wlad honno mae hi i'w gweld ar ei chryfa mewn cymunedau sydd wedi dad-ddiwydianu. Maen nhw hefyd yn gymunedau sydd naill ai bron yn gyfan gwbwl gwyn eu croen neu'n gymunedau gwyn sy'n byw'n gyfochrog a chumuned du neu Ladin heb fawr o gymysgu rhyngddynt.
Yn ddi-eithriad bron mae aelodau'r cymunedau gwyn hynny yn anarferol o unffurf o safbwynt eu cefndiroedd . Maen nhw'n anghydffurfiol o safbwynt eu crefydd ac mae eu teulouoedd wedi bod yn bwy yn yr un ardal am genhedlaethau lawer heb fawr o "waed newydd" yn dod mewn. Mae gwreiddiau y rhan fwyaf o'r teuluoedd hynny naill ai yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Rhain yw'r bobol y mae'r Seneddwr Jim Webb yn disgrifio yn ei lyfr ""
Oes 'na gymunedau tebyg yng Nghymru- cymunedau tlawd, gwyn eu croen lle mae cyraeddiadau addysgol a disgwyliadau yn isel yn lle mae'r rhan fwyaf o deuluoedd wedi byw yn yr un ardal am genedlaethau?
Wrth gwrs bod 'na. Mae 'na lwyth ohonyn nhw yng nghymoedd y de ac fel gwnes i nodi yn y post yma rhain oedd yr union ardaloedd lle cafodd Lafur drafferth yn yr etholiad diwethaf.
Fe fyddwch chi, fel fi, yn crafu eich pennau o glywed bod pwnc mewnfudo yn cael ei godi'n amlach ar stepen drws gan bobol y cymoedd na thrigolion llefydd fel Casnewydd a Chaerdydd sydd â lleiafrifoedd ethnig sylweddol. Serch hynny rwyf wedi clywed hynny'n cael ei ddweud dro ar ol dro gan bobol wnaeth ganfasio dros Lafur yn ystod yr etholiad.
Un o'r sloganau gwleidyddol mwyaf clyfar erioed yn fy marn i oedd "Tough on crime. Tough on the causes of Crime". Dyna i chi sylfaen buddugoliaeth Tony Blair yn 1997 mewn naw gair- y tri cyntaf wedi eu hanelu at ddarllenwyr y Sun a'r Star a'r chwech olaf at bobol y Guardian a'r Independent.
Yr eironi mae'n debyg yw nad yw problemau Llafur gyda'r bleidiais ddosbarth gwaith yn deillio o fethiant ynghylch cymal cyntaf y slogan ond yr ail. Cafwyd carchardai newydd, camerâu CCTV di-ri, y bas data DNA a llwyth o gyfreithiau newydd dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf.
Ond beth am ddelio gyda'r rhesymau dros droseddi; tlodi, diffyg addysg, diffyg cyfleoedd ac yn y blaen? Methiannau yn y meysydd hynny sydd wedi achosi problemau'r blaid, dybiwn i, ac mae angen mwyn na slogan clyfar a threigl amser i leddfu'r dadrithiad.
SylwadauAnfon sylw
Roeddwn yn byw yn Awstralia pan ddaeth Blair i rym ym 1997 ac er fy mod yn gwbl ymwybodol nad oedd y dyn yn chwyldroadwr sosialaidd o bell ffordd roedd y gobaith am ddyddiau gwell yn dilyn y grasfa a gafodd Cymru gan Thatcher a’i chyw Major yn ein hysbrydoli hyd yn oed islaw’r cyhydedd.
Trychineb, felly, oedd gweld Plaid y Bobl yn troi’n Blaid y Brawd Mawr efo’u CCTV, eu cronfeydd data dibendraw a’u cardiau adnabod Orwellaidd. Gobeithio bod pob Aelod Seneddol Llafur yn y Senedd ddiwethaf yn gwgu mewn cywilydd o weld Llywodraeth dan arweiniad Tori’n addo dadwneud eu hystryw Stalinistaidd.
Red Necks yw butties y cymoedd de? Dyma teitl llawn y llyfr nawddoglyd.....
"Deer Hunting with Jesus: Guns, Votes, Debt and Delusion in Redneck America"
Ydy'r llyfr yma ar restr darllen y ´óÏó´«Ã½?