Pethau'n poethi
Am unwaith dydw i ddim am ymddiheuro am blwyfoldeb wrth bostio ynghylch y ffrae am ysgolion gorllewin Caerdydd.
Rwyf wedi bod yn brysur heddiw gyda "Dau o'r Bae" a'r helynt ynghylch sedd gynulliad Alun Cairns ond dyma grynodeb o ddigwyddiadau'r dydd parthed yr helynt ysgolion. Fe gewch chi farnu os oes iddi oblygiadau cenedlaethol!
1. Derbyniais ddatganiadau newyddion gan y grŵp Ceidwadol yn y cynulliad a chan Dafydd Wigley y prynhawn yma yn ymosod yn ffyrnig ar benderfyniad Carwyn Jones. Anaml iawn y mae Dafydd Wigley yn rhyddhau datganiad newyddion personol. Efallai bod a wnelo hynny a'r datblygiad nesaf.
2. Fe fydd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Cymru yn cwrdd yn Rhaeadr yfory. Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd wedi galw ar y cyfarfod hwnnw i ystyried diweddu'r Glymblaid a Llafur.
3. Deallaf fod penaethiaid Cyngor Caerdydd yn bwriadu gofyn am arolwg barnwrol o'r penderfyniad a'u bod yn agos at sicrhau cefnogaeth y Gymdeithas Lywodraeth Leol a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg i'w hachos.
4. Am ychydig wedi saith heno, ymhell tu hwnt i'r oriau gwaith arferol, fe ryddhaodd Llywodraeth y Cynulliad ddatganiad yn disgrifio sefyllfa addysg Gymraeg yng ngorllewin Caerdydd fel un annerbyniol ac anghynaladwy. Mae swyddogion y Llywodraeth wedi eu gorchymyn i weithio ar fyrder gyda'r cyngor i ddatrys y broblem.
Fe fydd y datganiad hwnnw yn "exhibit one" yn yr arolwg barnwrol, dybiwn i!
Fel y dywedais i, fe gewch chi farnu ai ffrae leol yw hon.
Diweddariad; Mae manylion y datganiadau bellach i'w gweld ar y.
SylwadauAnfon sylw
Gwerth nodi fod Gwenllian Lansdown - Prif Weithredwr Plaid, yn aelod o grwp y blaid ar y Cyngor.
Er mai Carwyn Jones gymerodd y penderfyniad i beidio ehangu addysg Gymraeg yn Nhreganna does dim dwywaith fod Rhodri Morgan wedi bod yn ddylanwad pwysig yn y penderfyniad. Neithiwr ar Newyddion S4C wrth amddiffyn yr Ysgol Saesneg fyddai’n gorfod cau i wneud lle i ehangu addysg Gymraeg dywedodd un o’r rhieni fod yr Ysgol Saesneg yn ysgol dda a ‘multicultural’. Tybed o lle daeth y fath air profund yna? Wel, o rethreg Rhodri Morgan a’r Blaid Lafur mae’n siŵr sy’n ddiwyd yn portreadu pleidwyr addysg Gymraeg fel yr ‘elit’ a’r ‘crachach’ ac hyrwyddwyr ‘apartheid’.
Nawr a chymryd y busnes ‘multiculturalism’ yma o ddifri, bydd plant Ysgol Landsdown yn cyrraedd yr Ysgol Uwchradd yn rhugl mewn un iaith (oni iddynt ddysgu iaith arall ar yr aelwyd) ond bydd plant Ysgol Treganna’n cyrraedd yr ysgol uwchradd yn rhugl mewn dwy iaith, y Gymraeg a’r Saesneg. Addysg Gymraeg sy’n creu plant a byd olwg ‘multicultural’ nid Addysg Saesneg. Dwi’n medru byw, bod a meddwl mewn dwy iaith. Dydy hynny ddim yn wir am blant sydd wedi bod trwy’r drefn addysg Saesneg. Maen nhw’n dod allan yn byw, bod a meddwl mewn un iaith, y Saesneg.
Dwi’n gwybod mod i fel record wedi sdicio weithiau ond dyma enghraifft eto fyth pam mod i, ers y dechrau, wedi bod yn amheus o glymbleidio gyda’r Blaid Lafur. Efallai ei bod nhw ar y chwith ac efallai ei bod nhw, ar ddiwrnod da, ychydig bach yn fwy Cymreig na’r Ceidwadwyr ond diwedd y dydd mae eu ideoleg, onid rhagfarn, am hunaniaeth a chenedlaetholdeb yn parhau i fod yn wrthyn i raison d’etre Plaid Cymru. Wedi colli'r Papur Dyddiol, Mesur Iaith wan a methiant i ddatblygu addysg Gymraeg mewn ardaloedd helaeth o'r de ymddengys fod gobaith olaf y glymblaid o ddelifro rhywbeth i'r iaith yn sefyll gyda'r Coleg Ffederal Cymraeg. Mae'r ewyllys wleidyddol yn parhau i fod tu ôl hwn jest gobeithio fydd arian ar ôl yn y pont i'w wireddu!
Wrth gwrs, dylai'r Blaid adael y glymblaid. Ers datganoli, rydym wedi cael 11 o flynyddoedd o lywodraeth Lafur sydd wedi achub ar bob cyfle posib i sarhau siaradwyr Cymraeg. O'u hymgyrch "gasineb" yn erbyn siaradwyr Cymraeg yn sgil helynt Seimon Glyn i'r rhestr hir o addewidion ynghylch y Gymraeg mae Llywodraeth Lafur-PC wedi eu torri ers 2007, yr un yw'r neges.
Datganoli = llywodraeth Lafur barhaus = rhagfarn sefydliadol ddi-ben-draw yn erbyn lleiafrif ieithyddol
Dwi'n ansicr o ran y refferendwm datganoli ar hyn o bryd. Oni fyddai pleidlais IE yn golygu rhagor o ragfarn wrth-Gymraeg? A deud y gwir, dwi'n osio at bleidlais NA.
Beth yw teimladau darllenwyr eraill y blog am hyn? Dwi'n ei chael yn gynyddol anodd cysoni fy nghefnogaeth i'r Gymraeg a'm cefnogaeth i'r brosiect ddatganoli. Oes rhywun all fy narbwyllo fel arall?
"Gwerth nodi fod Gwenllian Lansdown - Prif Weithredwr Plaid, yn aelod o grwp y blaid ar y Cyngor."
Gwerth nodi? Pam?
Dwi'n credu mae wedi dod i'r amser i rhieni ag athrawon Ysgol Treganna gwrthod talu Treth Cyngor fel protest yn erbyn y Cynulliad ar ol iddynt codi dau fys addysg cyfrwng Gymraeg.
"Gwerth nodi? Pam?"
Gan bod grŵp Cynghorwyr y Blaid (yn cynnwys Gwenllian Lansdown) wedi galw ar y Blaid yn genedlaethol (s'yn cynnwys Gwenllian Lansdown) i dynnu allan o'r glymblaid gyda Llafur yn y Cynulliad.
Datganiad gan Gymdeithas yr Iaith yma:
Wfft i'r Glymblaid a gwynt teg ar ei hôl