Ar ôl y toriad
Mae'n bryd clirio'r llwch allan o'r lle 'ma! Rwyf wedi bod bant am wythnos ac am unwaith roeddwn yn benderfynol o gadw draw o wleidyddiaeth- i'r graddau mae hynny'n bosib o leiaf.
Dydw i ddim yn credu fy mod wedi colli rhyw lawer. Yn sicr dyw heddiw ddim yn ddiwrnod o fagnelau mawrion! John Griffiths sy'n briffio ar ran y Llywodraeth. Mae Mike German am drafod bagiau plastig yng nghynhadledd newyddion y Democratiaid Rhyddfrydol ac fe fydd Jane Hutt yn llenwi dros Carwyn yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog.
Am sbort!
Peidiwch boeni fe wna i ffeindio rhywbeth!