´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Germania

Vaughan Roderick | 12:30, Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2010

_1318502_mikegerman300.jpgDydw i ddim yn credu mai dyna oedd y bwriad ond fe drodd cynhadledd newyddion y Democratiaid Rhyddfrydol yn dipyn o sesiwn ffarwel i Mike German heddiw. Trafod bagiau plastig oedd y bwriad ond gyda Mike yn gadael y Bae ymhen ychydig wythnosau efallai ei bod hi'n anorfod bod y cwestiynu wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny.

Fe ofynnwyd i gyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol am ei argraffiadau wrth edrych yn ôl dros bron i ddeuddeg mlynedd yn y Cynulliad.

Creu cenedl fwy hyderus oedd prif gyflawniad y Cynulliad yn ei farn ef. O safbwynt ei gyflawniadau a'i fethiannau personol roedd e'n ymfalchïo yn y glymblaid a Llafur yn y cynulliad cyntaf ac yn gweld y methiant i gyrraedd cytundeb enfys yn y cynulliad hwn fel ei siom fwyaf. Diddorol nodi, gyda llaw, ei fod yn rhoi'r bai am y methiant hwnnw ar ei blaid ei hun yn hytrach na cheisio beio'r pleidiau eraill fel mae ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol yn tueddu gwneud.

Dyw ymadawiad Mike ddim yn golygu y bydd y cynulliad yn ddi-German wrth gwrs. Ei wraig, Veronica, fydd yn cymryd ei le ac yn groes i awgrymiadau mewn ffug ddatganiad gan un o swyddogion y blaid ni fydd disgwyl i bobol foesymgrymu i'r "ledi" newydd!

Fe fydd y newid yn golygu mai merched fydd y mwyafrif o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad. Mae hynny'n dipyn o gamp o gofio nad oes gan y blaid strwythurau arbennig, fel rhai Llafur a Phlaid Cymru, i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal.

Yn sicr fe fydd hynny'n tynnu sylw unwaith yn rhagor at yr anghyfartaledd ar y meinciau Ceidwadol lle mae pob aelod, ac eithrio un, yn ddynion.

Fe ddylai hynny newid rhywfaint yn 2011. Heddiw cyhoeddodd y Ceidwadwyr fanylion eu trefniadau dewis ar gyfer etholiad flwyddyn nesaf. Cafwyd cyfaddefiad i ddechrau na fydd 'na newid yn y gyfraith i ganiatáu i bobol sefyll fel ymgeiswyr etholaeth a rhanbarth mewn pryd i'r etholiad.

Yn wyneb hynny sut fydd y drefn ddewis yn gweithio? Wel, mae'n debyg y bydd y Ceidwadwyr yn dewis ymgeiswyr yn eu hetholaethau targed i ddechrau, yna eu hymgeiswyr rhanbarth ac yna gweddill yr etholaethau.

Yn yr etholaethau targed fe fydd 'na nifer gyfartal o ddynion a menywod ar y rhestr fer. Yn y rhanbarthau fe fydd aelodau cynulliad presennol sy'n dymuno sefyll eto yn cael y seddi brig gyda'r lle gwag uchaf wedi ei glustnodi ar gyfer menyw.

Mae'n anodd gweld hynny'n gwneud fawr o wahaniaeth yn yr aelodaeth ranbarthol gydag un eithriad.

Yng Ngorllewin De Cymru menyw fydd yn cymryd lle Alun Cairns ar frig y rhestr. Fe gewch chi farnu ydy hynny'n gam pwysig tuag at gyfartaledd neu'n ffordd arall o geisio rhwystro uchelgais gwleidyddol Chris Smart!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:24 ar 8 Mehefin 2010, ysgrifennodd Meurig:

    Mae'n debyg y bydd trefniadau dewis newydd y Ceidwadwyr hefyd wrth fodd Mohammed Asghar.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.