´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Amseru Gareth

Vaughan Roderick | 12:39, Dydd Mawrth, 28 Medi 2010

Fe fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma wedi gweld dewisiadau Plaid Cymru ar gyfer rhestri'r Gogledd a'r Gorllewin a'r Canolbarth a chlywed bod Gareth Jones wedi penderfynu rhoi ei dwls ar y bar am y to olaf adeg yr etholiad nesaf.


Mae amseriad datganiad Gareth yn ddiddorol gan awgrymu i rai ei fod wedi oedi tan ar ôl i'r ymgeiswyr rhanbarth gael eu dewis er mwyn cau allan neu roi hwb i ymgeisydd posib yn Aberconwy. Dydw i ddim yn credu bod Gareth Jones y fath o ddyn i ymddwyn felly. Mae ei gyhoeddiad cymharol hwyr yn y dydd yn fwy o fater o'i chael hi'n anodd penderfynu yn fy marn i.

Ta beth am hynny mae'r penderfyniad yn gwneud pethau'n llawer anoddach i Blaid Cymru yn Aberconwy. Pwy fydd yn cael y dasg o geisio cadw gafael yn y sedd i'r blaid? Mae 'na lawer o son am Iwan Hughes cyn-gyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ond fe fydd 'na enwau eraill yn y ffrâm.

Wrth gwrs yn unol â mathemateg greulon y system etholiadol fe fyddai colli Aberconwy yn newyddion da i Llŷr Hughes Griffiths ac o bosib Heledd Fychan, yr ymgeiswyr rhestr. Yn yr un modd yn y Canolbarth a'r Gorllewin mae'n anodd credu nad yw Nick Bourne yn dawel obeithio na fydd y Ceidwadwyr yn cipio Maldwyn gan aberthu sedd rhestr eu harweinydd!

Gwaharddiad ail Ddeddf Llywodraeth Cymru ar ymgeisyddiaeth ddwbl sydd wedi creu'r sefyllfaoedd hynod arteithiol - iddyn nhw, a hynod ddifyr i ni! Does rhyfedd efallai bod Hywel Williams yn gobeithio cyflwyno gwelliant i'r Mesur Pleidleisio ac Etholaethau o gofio bod ei ddyweddi yn gobeithio bod yn ymgeisydd rhestr!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:49 ar 28 Medi 2010, ysgrifennodd Idris:

    Arnai ofn mod i'n un o'r darllenwyr sydd heb glywed am y dewisiadau rhestr. Alli di rannu'r newyddion? Hefyd, wyt ti'n gwybod pryd mae'r rhanbarthau eraill yn dewis?

  • 2. Am 16:00 ar 28 Medi 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Gogledd; Llyr Hughes Griffiths, Heledd Fychan, Dyfed Edwards, Liz Saville- Roberts
    Canolbarth Simon Thomas, Angela Elniff-Larsen, John Dixon, Rhys Davies
    Mae rhanbarthau Canol a Dwyrain De Cymru yn fuan, mae 'na rai wythnosau cyn Gorllewin De Cymru.

  • 3. Am 16:20 ar 28 Medi 2010, ysgrifennodd Plaid Gwersyllt:

    Mae na ddwy ranbarth yn cyhoeddi dydd Sadwrn nesa. Beth am hyn fel rhestr eith am Aberconwy:
    1. Phil Edwards.
    2. Iwan Hughes.
    3. John Penri
    4. Paul Rowlinson.
    Phil Edwards ydy'r unig un hefo pleidlais bersonnol rywbeth tebyg i Gareth ac hefo siawns i ennill. Os ennillith y Tories y sedd mae Isherwood (debyg) wedi mynd i abergofiant!

  • 4. Am 17:34 ar 28 Medi 2010, ysgrifennodd blogmenai:

    Er mwyn osgoi camddealltwriaeth - roedd Pwyllgor Rhanbarth (Plaid Cymru) yn ymwybodol o benderfyniad Gareth Jones cyn i'r pleidleisiau ar gyfer y rhestr gael eu cyfri ddydd Sadwrn.

  • 5. Am 17:48 ar 28 Medi 2010, ysgrifennodd Josgin:

    Colled anferth. Yr oedd yn siarad yn gall ac yn wybodus iawn mewn cyfarfod ymylol yng nghynhadledd y blaid. Yr wyf yn pryderu'n fawr os gadewir polisi addysg y Blaid yn nwylo rhai o'r gwleidyddion proffesiynol sydd bellach yn gyfrifol amdano.

  • 6. Am 13:37 ar 29 Medi 2010, ysgrifennodd Pleidwraig:

    Beth nad ydi'r rhestr ar gyfer y Gorllewin a'r Canolbarth yn ddangos yw na chafodd Angela Elniff-Larsen DDIM UN pleidlais gynta a dim ond pedair pleidlais ail ddewis (yn golygu yn ôl y system STV fod ganddi gyfwerth â 2.2 pleidlais) tra bod John Dixon wedi cael 120 (o gymharu â 160 i Simon Thomas.. Doedd hi ddim hyd yn oed wedi bod yn bresennol yn y cynadleddau dewis. Felly sut yn y byd y gall hi fod yn iawn ei bod hi yn yr ail le a John Dixon yn drydydd? Mae yn yn dod â gwarth ar y Blaid ac yn gwneud dim i sicrhau lle teilwng i ferched o'i mewn. Dylai Angela dynnu ei henw'n ôl.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.