Dyn Prysur...
Mae'n amlwg bod Carwyn yn bwriadu mynnu bod yr arweinydd newydd yn cadw at ei air. Yn ei araith ym Manceinion dywedodd Prif Weinidog Cymru hyn;
Incidentally Ed - when you came to Cardiff during the campaign, you publicly proposed that the Leaders of the Welsh and Scottish parties should have ex-officio seats on the National Executive Committee of the Labour Party. Both Iain Gray and I, wholeheartedly support you in this. It's long overdue that our party structure reflects the variou s devolution settlements that exist within the UK.
Mewn gwirionedd does dim byd yn gallu digwydd am flwyddyn oherwydd bod angen newid yn llyfr rheolau'r blaid.
Mae 'na broblem fach arall hefyd. Mae'r Pwyllgor Gwaith yn cwrdd ar bnawn dydd Mawrth ac mae Prif Weinidog Cymru yn brysur yn ateb cwestiynau bryd hynny!
SylwadauAnfon sylw
Gwladol / cenedlaethol?? Mae'r Blaid Lafur yncredu fod Prydain yn genedl (a Cymru hefyd ar brydiau). Felly mae'n o'n gyson ( os braidd yn sgitsoffernig) iddynt alw eu pwyllgor Prydeinig yn 'genedlaethol'.
be mae nhw'n galw eu pwyllgor Cymreig tybed - regional??
Efallai bod angen ystyried mabwysiadu termau Yr Athro Michael Keating sydd wedi ysgrifennu'n helaeth am wladwriaethau, ffederaliaeth, cenedligrwydd a chenhedlau di-wladwriaeth (Gwelir ei lyfr 'Nations against the State', 2001). Ystyria Keating Prydain yn 'wladwriaeth blwri-genedl' gan nad yw'n anghyson i ystyried Prydain a Chymru fel cenhedloedd, na' chwaith i berthyn i'r ddau ohonyn nhw.