´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yng Nghefn y Dosbarth

Vaughan Roderick | 13:48, Dydd Mercher, 29 Medi 2010

Roedd hi'n anorfod y byddai'n rhaid i mi ddychwelyd at bwnc addysg Gymraeg yn hwyr neu'n hwyrach ond mae'n ymddangos bod straeon yn y maes hwn, fel bysys, yn dod fesul tair.


Ble mae cychwyn felly? Wel, ble ond Treganna?

Roedd hi'n ymddangos wythnos yn ôl bod rhyw fath o gyfaddawd wedi ei gyrraedd ynghylch y ffrwgwd arbennig yna gyda'r Cyngor yn cyhoeddi cynlluniau i godi ysgol newydd sbon dair ffrwd i ddelio a thwf addysg Gymraeg yn yr ardal.

Ar ôl yr holl helynt teg fyddai i'r rhieni gredu y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi rhwydd hynt i'r cynlluniau. Nid felly mae'r aelod lleol Rhodri Morgan yn gweld pethau. Draw ar "Click on Wales" mae Rhodri yn cwyno nad oes gan y Cyngor "plan B". Mae'n dweud hyn;

In its consideration of the proposal City Council scrutiny system should now go into overdrive, scoring it on:
1. How quickly it solves Treganna's overcrowding.
2. What chances the City has of finding the other £6 million from capital receipts?
3. What other school capital projects already submitted for Assembly funding would be lower in priority than the new school, if indeed there are any candidates for lower priority?

We also need to know what the Plans B and C the City Council have and how they score on the same three key tests. Then we can see whether this really is the only possible solution, albeit very slow. At that point, Cardiff could make a strong case out to the Welsh Government's Capital Programme.

Mae'n ymddangos bod Rhodri wedi anghofio mai "plan C" y cyngor yw hwn.

Fe wrthodwyd "Plan A" sef cau ysgol Radnor Road yn sgil gwrthwynebiad y cynghorwyr lleol. Fe wrthodwyd "Plan B" gan Carwyn Jones. "Plan C" yw hwn felly. Yng ngeiriau un o rieni'r Ysgol Gymraeg "Cyn i Rhodri alw am 'Plan Ch' a 'D' y cyngor oni ddylai fe gynhyrchu ei 'Plan A' ei hun?"

Yn sicr dyw sylwadau Rhodri yn gwneud ddim ffafrau a'i olynydd fel ymgeisydd Llafur Gorllewin Caerdydd, Mark Drakeford. Mae hwnnw wedi cadw allan o'r ddadl hyd yma ac mae'n anodd deall pam mae Rhodri yn ceisio procio'r tân ar hyn o bryd.

Mae'r ail stori ynghylch addysg Gymraeg hefyd yn ymwneud â Chaerdydd a'r newydd fod Leighton Andrews wedi rhoi sêl ei fendith ar sefydlu trydedd Ysgol Uwchradd Gymraeg y Brifddinas. Fe fydd yr ysgol honno ar y ffin rhwng stad cyngor Llanedern a maestrefi cefnog Cyncoed a Phen-y-lan. Does dim enw wedi ei gytuno ar gyfer yr ysgol eto ond rwy'n fodlon mentro nad Llanedern fydd y dewis!

Mae 'na broblem llawer mwy difrifol ynglŷn â dosbarth yn wynebu'r Cyngor wrth lunio dalgylchoedd y tair ysgol. Mae 'na beryg go iawn y byddai'r ffiniau amlwg yn creu un ysgol hynod o ddosbarth canol gyda chanran uchel o blant o gartrefi Cymraeg sef Glantaf gyda'r ddwy ysgol arall yn llawer mwy dosbarth gwaith gyda chanrannau bychan iawn o blant o deuluoedd Cymraeg. Fe fydd angen cynllunio gofalus iawn i sicrhau nad yw hynny'n digwydd er y dylai'r broblem ddatrys ei hun gyda sefydlu'r bedwaredd ysgol y bydd ei hangen o fewn byr o dro.

O Abertawe y daw'r drydedd stori ynghylch addysg Gymraeg. Bu'r cynulliad yn trafod y ddarpariaeth yn yr ail ddinas yn ddoe.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:47 ar 29 Medi 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Cytuno fod sylwadau Rhodri yn od. Wedi iddo wrthwynebu cau ysgolion Saesneg er mwyn datrys y broblem hon, mae bellach yn dadlau yn erbyn ei datrys wrth agor ysgol newydd.

    Mae'n anodd iawn, iawn dehongli hyn ond fel gwrthwynebiad ar dir egwyddor i dwf addysg Gymraeg. Rwy'n credu mai dewis ateb Rhodri fyddai "addysg ddwyieithog" a gwasgaru disgyblion cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled y ddinas i "unedau" bychain, disberod mewn ysgolion Saesneg.

    Wna i ddim gadael sylwadau ar wefan deuluol fel hon yn dweud beth dwi'n meddwl o'r syniad yna!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.