Ar ôl y toriad
Reit, yn ôl a ni at wleidyddiaeth ac rwy'n meddwl bod hi'n bryd cyhoeddi ambell i ragolwg o ornestau mwyaf diddorol 2011 gan ddechrau gyda brwydr Morgan v. Morgan yng Ngogledd Caerdydd.
Roedd canlyniad yr etholaeth honno eleni llawer yn agosach nac oedd unrhyw un wedi proffwydo. Gyda Llafur bellach heb yr un cynghorydd yn yr etholaeth a chyda'i etholwyr ar gyfartaledd ymhlith y mwyaf cefnog yng Nghymru y disgwyl oedd y byddai'r Ceidwadwyr yn cipio'r sedd heb fawr o drafferth.
Roedd Gogledd Caerdydd yn rhif 22 ar restr targedau'r Ceidwadwyr ond cael a chael oedd y canlyniad. 194 oedd mwyafrif Jonathan Evans ar ddiwedd yr ail-gyfri ac roedd y gogwydd o Lafur i'r Ceidwadwyr yn 1.5% o gymharu â 5.6% trwy Gymru gyfan a 5% ar lefel Brydeinig.
Mae sawl esboniad wedi eu cynnig am ganlyniad rhyfeddol Llafur yn yr etholaeth hon. Yn eu plith mae poblogrwydd personol Julie Morgan a doniau ymgyrchu ei ŵr Rhodri wnaeth treulio rhan helaeth o'r ymgyrch yn rhoi help llaw iddi. Awgrymwyd hefyd bod Jonathan Evans yn well fel Aelod Seneddol nac oedd e fel ymgeisydd.
Efallai bod 'na beth wirionedd ym mhob un o'r ffactorau hynny ond dydyn nhw ddim yn ddigon i esbonio'r ffenomen yn fy nhyb i.
Mae'r gwir esboniad, dwi'n meddwl, i'w canfod mewn darn o waith gan Lyfrgell TÅ·'r Cyffredin. Gofynnwyd i'r ymchwilwyr amcangyfrif faint o swyddi cyhoeddus sydd ym mhob un etholaeth.
O gofio bod Gogledd Caerdydd yn cynnwys Ysbyty'r Brifysgol a swyddfeydd treth Llanisien fe fyddai dyn yn disgwyl i'r nifer o weithwyr cyhoeddus fod yn sylweddol yno - ond dim hanner cymaint ag amcangyfrif swyddogion y TÅ·.
Yn ôl hwnnw mae 22,500 o'r swyddi yng Ngogledd Caerdydd, 48.8% o'r cyfanswm, yn y sector gyhoeddus. Hwnnw yw'r canran uchaf yng Nghymru a dim ond tair ar ddeg o etholaethau eraill sy 'na ym Mhrydain lle mae'r canran yn uwch.
Dyw pob un o'r bobol sy'n llenwi'r swyddi hynny ddim yn byw yng Ngogledd Caerdydd wrth reswm. Ar y llaw arall mae 'na filoedd ar filoedd o'r etholwr, dybiwn i, sydd mewn swyddi cyhoeddus mewn etholaethau cyfagos, yn ddarlithwyr coleg, yn weithwyr cyngor ac yn weision sifil. Teg yw credu felly bod oddeutu hanner deuluoedd cefnog Gogledd Caerdydd yn derbyn eu golud o bwrs y wlad. Mewn cyfnod o doriadau, i bwy maen nhw'n debyg o bleidleisio, tybed?
Teg yw dweud dwi'n meddwl mai Jonathan Morgan yw'r ffefryn i ennill yng Ngogledd Caerdydd flwyddyn nesaf ymhlith y rhan fwyaf o sylwebyddion a gwleidyddion. Byswn i'n tybio y gallai'r canlyniad bod yn agos ond pe bawn i'n gorfod enwi ffefryn Julie ac nid Jonathan fyddai hwnnw.
Mae 'na saith etholaeth arall yng Nghymru lle mae canran y swyddi cyhoeddus yn fwy 'na 40% sef Dyffryn Clwyd (45.3%), Gorllewin Clwyd (44.6%), Arfon (43.3%), Mynwy (41.9%), Rhondda (41.8%), Ceredigion (41.4%), Gorllewin Abertawe (41.1%). Mae presenoldeb Mynwy, Gorllewin Clwyd a Cheredigion ar y rhestr yn ddiddorol a dweud y lleiaf!
SylwadauAnfon sylw
Fi sy'n dwp, mae'n siwr, ond tydw i ddim yn gallu gweld pam fod Ceredigion yn ddiddorol yng nhgyd-destun y stori hon ac etholiadau'r Cynulliad...
Am ei bod hi'n bosib y bydd gweithwyr cyhoeddus yn defnyddio'r etholiad i "gosbi" pleidiau Clymblaid y DU.
Ydy'r ffigyrau cyffelyb â'ch ar gyfer Sir Gâr Vaughan? Jst o ddiddordeb?
Gorllewin Caerfyrddin/ De Penfro 37.9%
Dwyrain Caerfyrddin 28.7%
Llanelli 29.7%