´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Croeso yn ôl, Karl

Vaughan Roderick | 10:45, Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2010

Yn ôl yn nyddiau cynnar iawn y blog hwn ar drothwy etholiad cynulliad 2007 un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd oedd "Barn y Bwci".


Roedd ambell i un wedi gwneud ffortiwn fach yn ystod etholiadau 1999 a 2003 trwy fetio ar ganlyniadau etholaethol gyda chwmni Jack Brown - yr unig fwci oedd yn cynnig prisiau seddi unigol. Erbyn 2007 roedd Jack brown wedi ei draflyncu gan Ladbrokes. Doedd dim modd gosod betiau ac roedd gosodwr prisiau Jack Brown Karl Williams wedi symud ymlaen. Ar fy nghais i fe osododd brisiau ar gyfer yr etholiad hwnnw i'r blog ac roedd ei ddarogan yn hynod o gywir.

Nawr, mae'n bosib y bydd Ladbrokes yn cynnig prisiau flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser mae Karl wedi gwneud tipyn o enw i'w hun fel gwrw etholiadol gan gael ei ddefnyddio'n helaeth ar draws y cyfryngau Cymreig.

Y newyddion da yw bod Karl am ddychwelyd at ei wreiddiau ar gyfer etholiad 2011. Dyma ei brisiau cychwynnol ar gyfer dwy etholaeth;

Gogledd Caerdydd

Jonathan Morgan (Ceid) 5-6
Julie Morgan (Llafur) 5-6

Mae'n anodd anghytuno a'r prisiau yn fan hyn. Fe wnes i nodi wythnos ddiwethaf fy mod i'n meddwl mai Julie yw'r ffefryn ond mae'r consensws yn ffafrio Jonathan. Teg felly yw eu prisio'n gydradd. Mae cynnig nesaf Karl yn llawer mwy dadleuol.

Caerffili

Ron Davies (Plaid) 8-11
Jeff Cuthbert (Llafur) 1-1 (EVS)

Nawr, mae gen i'r parch mwyaf at Karl ond os ydy'r don Llafur mor fawr ac mae rhai'n darogan rwyf i o'r farn y dylai fod yn ddigon i gario Jeff i'r lan. Mae'n dipyn o strets i ddweud mai Ron yw'r ffefryn - ond yn sicr mae'n un i wylio.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:14 ar 2 Tachwedd 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Ddim yn deall pam nad yw Plaid Cymru yn defnyddio Ron Davies ar y teledu ac yn y wasg. Mae'n ased, mae ganddo garisma, mae'n ymgorfforiad o refferendwm 1997.

  • 2. Am 14:40 ar 2 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Y broblem yw D. Enw, mae gan Ron hanes hefyd ac y mae o'n gocyn hawdd ei hitio – dychmyga'r hwyl gellir ei gael wrth godi trafferthion Y Blaid parthed difa moch daear mewn cyfweliad â Ron.

  • 3. Am 20:51 ar 2 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Monwynsyn:

    Gyda phrisiau fel yna dim ond ffwl fyddai yn mentro arian a fydd na fawr neb yn gwneud ffortiwn heb bod ganddynt lawer i'w fentro.

    Dwi yn credu bod na ymchwydd Llafur ond mater arall yw faint fydd yn pleidleisio. Mae' n rhy fuan i ddod i gasgliad pendant gan fod momentwm yn beth sydd yn gallu tyfu ac mae ymgyrchoedd yn gallu colli stem.

    O son am Ron dwi newydd fod yn darllen llyfr Seimon Brooks sef casgliad o'i golofnnau golygyddol yn Barn. Mae ganddo erthygl diddorol iawn o 1998 am Ron ar pryder ar y pryd o effaith diflanniad Ron yn dilyn ei gam gwag ar y tir comin. Yr hyn sydd yn eironig yw bod diflanniad Ron a dyrchafiad Alun Michael o bosibl wedi gwnud mwy i saernio lle y Cynulliad dros y ddegawd dilynol. Tybed beth fyddai effaith ei atgyfodiad gwleidyddol. Anaml mae gwleidydd eildwym yn llwyddo.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.