Barn Cyfreithiol
Wrth gwrs ni fyddai ein llywodraeth fach gartrefol yn ymddwyn yn y fath fodd! Nawr dywed Alun Ffred Jones ei fod yn "cael yr argraff tasa moses wedi cael statws i'r iaith ar fynydd seinai sa fo ddim yn ddigon i rai pobl".
Efallai bod 'na wirionedd yn hynny ond pan mae cyfaill bore oes sydd ymhlith y bobol fwyaf addfwyn yn y byd yma yn eich ffonio ac yna'n e-bostio i racsio honiadau'r llywodraeth rwyn tueddu gwrando. Mae hyny'n arbennig o wir pan fod hwnnw'n digwydd bod yn gyfreithiwr uchel ei barch. Cyn i chi ofyn Emyr Lewis ( Tomos Emyr i blant Bryntaf) sy'n mentro'i farn.
Dyma pam na allaf dderbyn honiadau'r Llywodraeth fod diwygiadau'r Llywodraeth i'r Mesur Iaith yn cryfhau statws swyddogol yr iaith Gymraeg ac yn ei gwneud yn gyfartal a'r Saesneg:
Mae'r Cymal 1(1) newydd yn datgan fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
OND, mae cymal 1(2) yn tanseilio hynny. Mae'r hwnnw'n cyfyngu effaith gyfreithiol statws swyddogol y Gymraeg i ddeddfau ac is-ddeddfau sy'n ymwneud a'r materion a grybwyllir yn y cymal hwnnw. Hynny yw, nid oes grym cyfreithiol annibynnol o gwbl gan y datganiad yng nghymal 1(1) fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Deallaf fod y Llywodraeth yn dadlau fod y cyfeiriad yng Nghymal 1(2)(b) at "beidio a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg" yn golygu fod statws y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Nid yw hynny'n dal dwr o gwbl. Mae is-gymal 1(2)(b) yn cyfeirio at un o'r meysydd hynny lle y gall y Gymraeg fod a statws swyddogol os oes deddf yn ymwneud a hynny. Pe bai yno ddeddf sy'n datgan yn blwmp ac yn blaen (fel y dylai'r Mesur hwn ei wneud) fod statws y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, neu na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, yna byddai'r Llywodraeth yn iawn. Ond nid oes y fath ddeddf yn bodoli.
Diweddariad; Mae'n ymddangos nad yw'r Lewisiaid cyfreithiol yn gwbl gytun. Mae Gwion Lewis yn ymddnagos yn gymharol blest a'r fersiwn newydd o'r mesur. Gellir ei glywed yn trafod y pwnc ar Post Cyntaf ddydd Gwener ar iPlayer.
SylwadauAnfon sylw
Digon glir Emyr, ond y peth sylfaenol yw beth sy'n digwydd yn lleol ar lawr gwlad. Dadl Saunders yn 1961 (hanner ganrif yn ôl) oedd i sefydlu'r Gymraeg yn iaith WEINYDDOL yn yr ardaloedd cymraeg. Dim ond Gwynedd sy'n gwneud hyn, ac hwnnw yn rhannol. Ac erbyn heddiw mae'r ardaloedd "Cymraeg" wedi crebachu, a bydd cyfrifiad 2011 yn ategu at y crebachu. Mae Cyfansoddiad Iwerddon yn datgan yn glir bod "Gwyddeleg yw iaith y Weriniaeth" ond at ba ddiben?. Mae llysoedd a gweinyddiaeth Iwerddon wedi anwybyddu hyn dros degawdau. Dim ond chwyldro meddylfryd all newid y sefyllfa yng Nghymru. Dof ydy'r unig gair addas i ddisgrifio'r 'deddfwriaeth' newydd. A dofednod y buarth Cymraeg a'u hysgrifennodd. Mae geiriau R Williams Parry am Gymru 1937 yn dod i'r cof.
" Rho awr o wallgofrwydd i'r llugoer tu ôl i'w fur,
Gwna ddaeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia"
Cytuno cant â chant â Petroc. Digon hawdd yw i fynnu deddwriaeth ar hyn ar llall ond os nad yw'r deddfwriaeth yno'n golygu newid meddwl a newid agwedd beth yw diben y deddfwriaeth?.
Dylai cynghorau megis Sir Gâr, Ceredigion a Sir Fôn weinyddu'n gyfan gwbwl trwy'r Gymraeg megis cyngor Gwynedd. Dyma lle mae angen gorfodaeth, dyma lle mae angen newid meddylfryd, iawn maent yn parchu'r iaith rhoid yn flaenllaw ar arwyddion ac yn y blaen, ond tocenistaidd yw hyn, os nad yw'r top yn gweinyddu yn y Gymraeg beth yw'r gobaith i'r werin bobl i ddilyn esiampl sydd ddim yn cael ei osod?. Dylai holl gynghorau trefol hefyd weinyddu yn y Gymraeg, Cyngor Tref Rhydaman yn esiampl dda, 75% o drigolion Rhydaman yn medru ar rywfaint o Gymraeg, cyfarfodydd a phob dim sydd yn cael ei wneud gan y cyngor yn uniaith Saesneg. Sut allwn newid hyn? Peidio pleidleisio i bleidiau gwrth-gymreig megis Llafur!