Gwesty Cymru
Mae 'na sawl mesur. GDP, GVA, y ffigyrau diweithdra, prisiau tai ac yn y blaen . Mae 'na werth iddyn nhw i gyd. Am wn i, edrych ar gyfuniad o bob un ohonyn nhw sy'n rhoi'r darlun gorau.
Dyma i chi fesur bach arall sy'n ddiddorol cyn belled ac mae ffyniant dinasoedd yn mynd -
mewn gwesty.
Dyma gwestiwn i chi. Pa ddinas Brydeinig oedd y ddrytaf i aros ynddi ym mis Hydref?
Llundain yw'r ateb amlwg a chywir. Roedd ystafell mewn gwesty yn Llundain yn costio £133 ar gyfartaledd.
Dyma gwestiwn arall. Pa ddinas oedd yr ail ddrytaf?
O gofia'r ffordd mae gwestai wedi tyfu fel madarch yn y lle dros y degawd diwethaf mae'n dipyn o syndod i ddarganfod mai Caerdydd yw'r ateb cywir y tro hwn. Roedd hi'n costi £99 am ystafell ddwbl yng Nghaerdydd ym Mis Hydref ar gyfartaledd - swm uwch na'r prisiau yng Nghaeredin (£95), Bryste (£89), Lerpwl (£87), Glasgow (£76), Leeds (£75) Birmingham (£61) a Blackpool (£59).
Dyw Caerdydd ddim yn ail yn y rhestr hon gan amlaf. Cwpan Ryder sy'n gyfrifol am y ffaith ei bod hi ym Mis Hydref - ond mae'n gyson yn agos at y brig.
Pam hynny? Mae'r ateb dybiwn i yn mynd yn ôl at bolisi wnaeth ddechrau yn nyddiau Nicholas Edwards ac sy ddim wedi newid cymaint â hynny yn y degawdau ers iddo adael y Swyddfa Gymreig. Yn nhyb yr Ysgrifennydd Gwladol roedd canolbwyntio buddsoddi cyhoeddus yn y brifddinas yn llawer mwy tebygol o ddenu buddsoddiadau preifat na fyddai buddsoddi mewn unrhyw ran arall o Gymru.
Mae'r symiau y gwnaeth Nicholas Edwards gamblo ar lwyddiant Caerdydd yn anhygoel. Fe gostiodd Bared Bae Caerdydd dros £200,000,000, er enghraifft. I roi hynny mewn rhyw fath o gyd-destun biliwn o bunnau'r flwyddyn fydd cyfanswm gwariant cyfalaf Llywodraeth y Cynulliad ar ddiwedd y cyfnod presennol o doriadau. Dyw'r ffigyrau hynny ddim yn cymryd chwyddiant i ystyriaeth.
Cwestiwn arall felly. A fyddai unrhyw un call heddiw yn dewis gwario chwarter y gyllideb cyfalaf blynyddol ar godi morglawdd er mwyn cuddio mwd Bae Caerdydd? Go brin.
Ond mae 'na broblem. Mae'r prisiau gwesty yn awgrymu bod Nicholas Edwards yn iawn ac nid rheiny yw'r unig dystiolaeth o hynny. Fe ddenwyd llwyth o fuddsoddiadau preifat i'r brifddinas ac mae llwyddiant Caerdydd wedi creu degau o filoedd o swyddi sy'n cael eu llenwi gan bobol o'r cymoedd glofaol, Bro Morgannwg a Gwent is-goed. Yn ôl Cyngor Caerdydd mae 75,000 o bobol sy'n byw y tu hwnt i ffiniau'r ddinas yn teithio mewn iddi bob dydd ar gyfer eu gwaith
Mae'n debyg bod Caerdydd wedi sugno calon ac enaid allan o ganol sawl tref ac un ddinas gyfagos ond o leiaf mae 'na waith i bobol sy'n byw o fewn ei chyrraedd.
Ers sefydlu'r cynulliad mae Llywodraeth Cymru wedi gallu chware gem ddwbl, Mae'r cynnydd mewn gwariant cyhoeddus wedi golygu ei bod hi wedi bod yn bosib parhau a pholisi Nicholas Edwards ac yr un pryd buddsoddi mewn prosiectau llawer mwy beiddgar a hirdymor mewn ardaloedd eraill.
Mae'r opsiwn yna'n diflannu ac fe fydd yn rhaid gwneud dewis.
Dwi'n falch nad fi sy'n gorfod gwneud y dewis hwnnw ond efallai y cawn ni awgrym i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu yn y gyllideb heddiw.
SylwadauAnfon sylw
Mae hyn oll yn atgoffa dyn o gerdd Idris Davies am olud Caerdydd, sy'n gorffen:
Puff, little engine, to the valleys at daybreak,
To northward and westward with a voice in the dawn,
And shout to the people that prosperity's coming,
And that coal can be changed into ingots of gold,
And that Cardiff shall be famous when the sun goes down.
Diolch am y blog. Dysgu llawer a mwynhau.
Rydw i'n ymweld â Chaerdydd am dridiau pob bythefnos i warchod y wyrion ac yn rhyfeddu at y datblygiad parhaus. Ac alla'i ddim peidio chwaith feddwl am yr eironi y byddai'r mwyafrif o bobl Caerdydd yn ymwrthod â'r mymryn lleiaf o hunan lywodraeth ac eto nhw sydd wedi elwa fwyaf o fodolaeth y Cynulliad.