Eid Mubarak - Aberth ac Anrheg
Ta beth ar ail ddiwrnod Eid-Ul-Adha fe fydd Cyllideb Llywodraeth y Cynulliad yn cael ei chyflwyno a theg yw proffwydo mae aberth nid anrheg fydd y brif ysbrydoliaeth.
Heb os mae'r Llywodraeth bresennol ac fe fydd yr un nesaf yn wynebu penderfyniadau anodd iawn yn enwedig ynghylch prosiectau cyfalaf. Fe fydd 'na doriant o 40% yn y gwariant hwnnw dros y pedair blynedd nesaf.
Mae'n amhosib credu na fydd hynny yn cael effaith difrifol ar rai o brosiectau mwyaf uchelgeisiol y Llywodraeth. Mae datblygu safle Gweithfeydd Glyn Ebwy - maes Eisteddfod eleni - yn un enghraifft amlwg o ddatblygiad a allai gael ei gwtogi neu ei ohirio.
Y tu hwnt y wariant cyfalaf, ym maes gwariant cyfredol mae 'na rai sy'n amau bod y Llywodraeth wedi codi bwganod ynghylch yr effaith tebygol ar wasanaethau rheng-flaen.
Yn ôl pan sefydlwyd y Cynulliad yn 1999 roedd gan y Llywodraeth rhyw saith biliwn o bunnau i wario ym mlwyddyn gyntaf ei fodolaeth. Erbyn y flwyddyn ariannol gyfredol mae hynny wedi mwy na dyblu i £15.2 biliwn. Siawns nad oes 'na rywfaint o fraster yn rhywle yn y gyllideb honno.
Wrth chwilio am y braster hwnnw mae gan Lywodraeth Cymru un fantais enfawr dros Lywodraeth y Deyrnas Unedig sef ewyllys da'r Undebau a'u parodrwydd i gydweithio.
I ddefnyddio term Saesneg 'paint job' oedd TUC Cymru pan sefydlwyd y corff yn ôl yn saithdegau. Mae'n werth nodi mai sefyll dros 'council' nid 'congress' mae'r drydedd lythyren yn 'TUC' yn achos Cymru. Am flynyddoedd doedd y corff yn gweud fawr mwy an wpo dreigiau ar gloriau polisiau ac adroddiadau TUC 'Prydain' - sef Cymru a Lloegr yn yr achos hwn.
Fe ddechreuodd pethau newid yn 1999 ac fe gyflymodd y broses honno yn sgil pasio ail fesur Llywodraeth Cymru.
Ymhen rhai wythnosau fe fydd TUC Cymru yn cynnal cynhadledd arbennig i drafod y gyllideb. Am y tro cyntaf fe fydd gan y Gynhadledd honno hawl i gymryd penderfyniadau ac i dorri cwys annibynnol Gymreig.
Ymysg yr holl helynt a stŵr ynghylch y toriadau mae hynny'n ddigwyddiad o bwys yn hanes gwleidyddol Cymru ac yn un ni ddylid ei anwybyddu na'i ddiystyru.