Agor y drws i UKIP
Mae sawl esboniad wedi eu cynnig am benderfyniad Gwir Gymru i beidio â cheisio statws y brif ymgyrch na yn y refferendwm datganoli. Yn wir mae'r grŵp ei hun wedi cynnig mwy nac un esboniad! Un o'r rheiny - un a gynigiwyd gan Syr Eric Howells ar CF99 a Rachel Banner ar 'Dragon's Eye' - oedd nad o gan y grwp ddigon o gefnogwyr unigol a sefydliadol i gyrraedd trothwy'r Comisiwn Etholiadol.
Os oedden nhw'n credu hynny mae'n debyg eu bod yn anghywir. Roedd ymgyrchwyr Ie wedi derbyn sicrwydd answyddogol gan y comisiwn y byddai Gwir Gymru yn cyrraedd y trothwy. Roedd o leiaf un aelod o Wir Gymru wedi derbyn neges debyg.
Ta beth am hynny fyddai'r cwestiwn ddim wedi codi yn y lle cyntaf pe bai UKIP wedi tynnu eu pwysau. Mae peiriant y blaid honno yn fwy o gert nac o gadillac ond mae ganddi ryw faint o drefniadaeth leol a thrac record etholiadol fyddai'n galluogi i'r trothwy gael ei gyrraedd yn hawdd.
Pam felly na wnaeth UKIP naill ai gymryd awenau gwir Gymru neu geisio ffurfio grŵp ymbarél ei hun? Mae'r ateb yn ddigon syml, dybiwn i. Mae gan UKIP rhyw faint o siawns o gipio sedd neu ddwy yn etholiad y Cynulliad. Rhestr y gogledd yw eu cyfle gorau yn fy marn i ac fe fyddai'n gwneud synnwyr perffaith i'r blaid ymgyrchu yn y refferendwm yn ei henw ei hun er mwyn cynyddu ei phroffil ar drothwy'r etholiad. Cofiwch dyw synnwyr perffaith a UKIP ddim bob tro yn gyfeillion pennaf!
Yn y cyfamser mae'r Blaid Werdd yn ceisio ein hargyhoeddi bod ganddi gyfle o ennill sedd restr yng Nghanol De Cymru. Dydw i ddim yn diystyru'r posibilrwydd hwnnw - ond fe fyddai llawer yn dibynnu ar ganlyniadau etholaethol Canol a Gogledd Caerdydd.
SylwadauAnfon sylw
Dyma’r pennawd ar wefan True Wales.
True Wales Statement on Refusing Taxpayers' Money for the No Campaign, 19th January 2011
Sylwer ar y 'refusing.' Y gwir amdani yw na chafodd True Wales gynnig y pres. Roedd hynny yn amodol ar TW yn ateb gofynion y Comisiwn Etholiadol a’r pryder y byddent yn methu’r prawf oedd tu ol i benderfyniad TW i beidio gwneud cais..
Wrth gwrs mi allent fod wedi bwrw ymlaen gyda’u cais, derbyn cymeradwyaeth y Comissiwn, cyhoeddi eu bod nhw nawr yn ‘swyddogol’ ac yna sefyll o flaen y Senedd gyda anferth o siec symbolaidd am £10,000 a’i gyflwyno nol i’r Comissiwn. Mi fyddai hynny wedi cynhyrfu’r dyfroedd.