´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Colli Tymer

Vaughan Roderick | 14:01, Dydd Mawrth, 25 Ionawr 2011

Mae dicter synthetig yn gallu bod yn arf gwleidyddol defnyddiol mae colli tymer go iawn ar y llaw arall gan amlaf yn arwydd o wendid os nad oes 'na reswm da iawn am wneud hynny.

Doedd na ddim llawer o newyddiadurwyr yng nghynhadledd newyddion y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw. Roedd dwy ran o dair o'r rhai oedd yn bresennol yng nghynhadledd y Llywodraeth wedi diflannu cyn i Kirsty Williams agor ei chynhadledd hi. Doedd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn yr ystafell arferol ond rwy'n amau bod canfyddiadau newyddiadurwyr o'r hyn sy'n debyg o ddigwydd ar Fai'r 5ed hefyd yn gyfrifol am benderfynniad rhai o fy nghydweithwyr i heglu hi yn ol i DÅ· Hywel.

Roeddwn i'n amau eu bod wedi gwneud y penderfyniad cywir am y rhan fwyaf o'r gynhadledd. Roedd Kirsty Williams yn trafod ymdrech gan y blaid i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i ganiatáu i Gomisiynydd Plant Cymru ymchwilio i faterion y tu hwnt i'r meysydd datganoledig. Nawr mae'r awgrym yn un digon synhwyrol ac mae'n debyg y byddai'n gwella'r gwasanaeth i blant Cymru. Serch hynny go brin fod hi'r fath o stori sy'n hela dyn i ruthro at y cyfrifiadur a'i wynt yn ei ddwrn.

Roedd hanner y newyddiadurwyr ar eu traed pan alwodd Kirsty ni yn ôl er mwyn codi pwnc arall. Adroddiad Prif Archwilydd Addysg Cymru ynghylch cyflwr ysgolion Cymru oedd hwnnw.

Dyw safonau bron traean ysgolion Cymru ddim yn ddigon da yn ol yr adroddiad ac mae gwelliannau mewn ysgolion wedi bod "yn araf".

Roedd hi'n warth o beth yn ol Kirsty nad oedd y Gweinidog Addysg yn ymddangos gerbron y Cynulliad i ymateb i'r feirniadaeth. Gyda gwir arddeliad mynnodd na fyddai Gweinidog yn San Steffan yn cael osgoi atebolrwydd yn y fath fodd.

Ychwanegodd fod gan Leighton Andrews dipyn o 'drac-record' yn hyn o beth gan ymateb i adroddiad damniol Pisa trwy ddatganiad ysgrifenedig ac wrth gyhoeddi newidiadau pwysig i addysg uwch mewn areithiau ym mhell tu hwnt i furiau'r Senedd.

Roedd Kirsty yn grac, yn wirioneddol grac. Go brin bod sesiwn gwestiynau Carwyn Jones wedi gwneud rhyw lawer o leihau ei phwysau gwaed. Wrth iddi geisio holi'r Prif Weinidog ynghylch yr adroddiad yr un ateb a roeddwyd bob tro. Fe ddylai pawb aros am araith bwysig gan Leighton Andrews wythnos nesaf yn ol Carwyn.

Ble mae'r araith honno yn cael ei thraddodi? Nid yn y Cynulliad ond yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

Fel y dywedais i mae colli tymer gan amlaf yn arwydd o wendid os nad oes 'na reswm da iawn am wneud hynny. Cewch chi farnu os oes 'na reswm yn yr achos hwn. Dyw Leighton Andrews ddim yn torri unrhyw reol ond onid yw hi'n rhyfedd fod un o brif ladmeryddion ymgyrchoedd Ie 1997 a 2011 yn ymddangos yn weddol o ddi-hid ynghylch y Cynulliad y mae'n atebol iddo?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:24 ar 25 Ionawr 2011, ysgrifennodd Bwlch:

    Sut mae canlyniadau arholiadau yn gwella pob flwyddyn ers i mi cofio ond rwan mae hanner plant Cymry twpach na thwp!!!Dwi angen eglurhad, ydi hyn ond gem wleidyddol o tanseilio y Cynulliad!?!?!

  • 2. Am 23:07 ar 26 Ionawr 2011, ysgrifennodd Hen athro:

    Mae'r ffigyrau'n gywir. Safon yr arholiadau sy'n gamarweiniol.
    Y cynulliad sy'n tanseilio addysg gyda'r obsesiwn gyda sgiliau amwys yn hytrach na cyfleu gwybodaeth a ieithoedd. Dyma'r pris am lywodraethau sosialaidd di-ddiwedd. Mae'r system gyfun , awdurdodau lleol drud di-rym, a chwricwlwm enfawr , yn tagu ein hysgolion.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.