Hen Hanes
Dyma fi felly yn 么l y gwaith ar 么l pythefnos o wyliau a dadwenwyno digidol - y cyfrifiadur wedi diffodd y ffon symudol wedi ei dawelu a dim byd i ddifyrru dyn ac eithrio llyfrau, cerddoriaeth - a rhyw bum cant o sianelu teledu!
Dydw i ddim yn credu fy mod wedi colli rhyw lawer. Wedi'r cyfan dim ond ripits oedd ar Ddemocratiaeth Fyw dros yr calan!
Ta beth dyma ni ar drothwy cyfnod hynod brysur o wleidydda gyda un o'r dyddiau pwysicaf yn hanes cyfansoddiadol Cymru yn brysur agoshau. Mawrth y trydydd yw'r dyddiad hwnnw - dyddiad y refferendwm diweddara ynghylch datganoli.
Cyn i chi feddwl fy mod wedi colli fy synnwyr cyffredin a phob persbectif gwleidyddol ar 么l rhyddhau fy hun o grafangau'r we rwy'n rhuthro i ddweud nad yw union destun y refferendwm yn fawr o beth.
Go brin fod mwy 'na ychydig o filoedd o etholwyr yn deall union bwrpas y bleidlais a'r newid sy'n cael ei gynnig. Mae gen i gryn gydymdeimlad sy'n honni bod torri'r nifer o Aelodau Seneddol Cymreig yn newid cyfansoddiadol llawer pwysicach na symud na chyflwyno Adran 4 o Fesur Llywodraeth Cymru (2006). Go brin y byddai angen pleidlais o gwbwl oni bai am anghenion mewnol y Blaid Lafur wrth i fesur 2006 gael ei dywys trwy'r Senedd.
Pam felly y mae'r refferendwm hwn mor bwysig? Wel, yn union oherwydd mai'r angen am 'ffics' fewnol Llafur yw'r rheswm y mae'r bleidlais yn cael ei chynnal. Mae hynny'n creu'r potensial i sicrhau mai hwn fydd y tro olaf y bydd statws cyfansoddidaol Cymru yn dibynnu ar anghenion mewnol prif blaid y chwith.
Mewn gwrionedd dyw hanfodion gwleidyddiaeth Cymru ddim wedi newid rhyw lawer dros y ganrif a hanner diwethaf. Ers i'r bleidlais cael ei rhoi i drwch y boblogaeth (gwrywaidd) yn 1867 ac 1884 mae plaid chwith-ganol wedi tra-arglwyddiaethu mewn gwleidyddiaeth Cymru. Y Blaid Ryddfrydol oedd y blaid honno cyn i Lafur gymryd ei lle - ond roedd y gwahaniaethau barn ynghylch statws cyfansoddiadol Cymru yn ddigon tebyg o fewn y ddwy blaid.
Yn y ddwy blaid doedd y "cwestiwn cendlaethol" ddim yn fater o unryw bwys mawr i drwch yr aelodaeth. I raddau helaeth felly roedd datblygiad cyfansoddiadol yn dibynnu ar ymdrechion carfannau bychan o ddatganolwyr ac unoliaethwyr pybyr oedd o bryd i gilydd yn dadlau eu hachosion gerbron y miloedd di-hid.
Weithiau, yn 1896 a 1979 er enghraifft, yr unoliaethwyr fyddai'n fuddugol. Ar adegau eraill fel 1964 a 1997 y datganolwyr fyddai'n mynd a hi. Pwy bynnag oedd yn fuddugol doedd yn deinamig o fewn y ddwy blaid ddim yn newid yn sylfaenol. Fe fyddai 'na frwydr arall i ddod rhyw bryd.
Camp fawr Ron Davies yn 1997 oedd celu y rhaniadau o fewn y Blaid Lafur trwy gyfuniad o hudo, bygwth a bwlian. Heb hynny go brin y byddai'r refferendwm wedi ei hennill. Ond am bob Carys Pugh a Betty Bowen oedd yn ymgyrchu'n gyhoeddus roedd 'na gannoedd o aelodau Llafur - a hen ddigon o Aelodau Seneddol yn eu plith - oedd yn dawel wrthwynebus.
Bodolaeth y garfan honno oedd yn gyfrifol am 'ffics' 2006 ond canlyniad y cytundeb hwnnw yw y gallai'r hen ranniadau ddiflanu am byth yn 2011.
Mae cyfuniad o ffactorau yn golygu bod y Blaid Lafur Gymreig am y tro cyntaf yn ei hanes bron yn gyfangwbwl unedig ynghylch datganoli gan gefnogi pleidlais 'Ie'. Mae'r Llywodraeth Glymblaid yn San Steffan, y toriadau gwariant a chwtogi'r nifer o Aelodau Seneddol Cymreig yn bennaf gyfrifol am hynny. Ar ben hynny mae haelioni cymharol Llywodraeth Cymru tuag at yr Awdurdodau Lleol wedi cau pen y mwdwl ym meddyliau sawl cynghorydd oedd cyn hyn yn ddrwgdybus ynghylch y Cynulliad.
Yr hyn y gallai refferendwm 2011 wneud yw troi'r Blaid Lafur Gymreig yn blaid o ddatganolwyr pybyr. Fe fyddai hynny newid hanesyddol gyda goblygiadau pellgyrhaeddol i Lafur, i'r pleidiau eraill - ac i Gymru.
SylwadauAnfon sylw
Croeso yn ol. Dwi wedi bod yn galw yn gyson rhag ofn. Efallai dylset roi rhybudd ac amcan o'r dyddiad dychwelyd. Yntau a fyddai hyn yn ormod o demtasiwn i gwleidyddion gladdu newyddion drwg !!!!.
Croeso nol Vaughan. Wedi dy golli dros y Nadolig!
Wedi bod yng ngl诺m a Refferendwm yng Nghasnewydd yn 79 a 97 rhaid dweud bod y sefyllfa erbyn heddiw diolch fyth yn hollol wahanol. Da oedd gallu mynychu cyfarfod lansio ymgyrch Ie yma gyda鈥檙 ystafell yn llawn o wynebau anghyfarwydd. Nid fel hyn oedd hi yn flaenorol gyda hanner dwsin ohonom yn gallu cael cyfarfod mewn blwch ffon!. Rhaid cyfaddef bod aelodau鈥檙 Blaid Lafur yno yn gref gyda mandet o blaid o ddatganoli yn gryf ar ei gwefusau.
Ond mae rhaid cofio bod hwn yn siwtio鈥檙 holl bleidiau Cymreig ar hyn o bryd yn enwedig y Blaid Lafur, felly och a gwe rhag i ni feddwl fod tr枚edigaeth ryfedd wedi digwydd ar y ffordd i Ddamasgas!
Ie mae dy ddehongliad 鈥淵r hyn y gallai refferendwm 2011 wneud yw troi'r Blaid Lafur Gymreig yn blaid o ddatganolwyr pybyr鈥. Efallai tipyn yn 鈥渇ar fetched鈥