Ar y trothwy
Mae "Gwallgof" a "boncyrs" yn dau o'r disgrifiadau mwyaf cwrtais yr wyf wedi eu clywed ynghylch y rheolau sy'n cael eu defnyddio gan y Comisiwn Etholiadol wrth baratoi ar gyfer refferendwm Mawrth y 3ydd. Nid bai'r Comisiwn yw hynny. Mae'r cyfan wedi ei reoli gan y ddeddf gwlad ond mae'n anodd deall beth yn union oedd ym mhennau pwy bynnag wnaeth lunio'r Political Parties, Elections and Referendums Act, 2000 .
Y rheolau sy'n ymwneud a phwy sy'n cael cymryd rhan yn yr ymgyrch sy'n achosi'r dryswch.
Mae'r rhan gyntaf o'r system yn ddigon call a synhwyrol. Disgwylir i bleidiau gwleidyddol undebau Llafur a grwpiau eraill sy'n bwriadu ymgyrchu gofrestri gyda'r comisiwn ac yn gosod uchafswm ar wariant pob grŵp. Mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith.
Yn anffodus go brin y gwellir dweud hynny am y rheolau ynghylch pennu prif grwpiau ymgyrchu. Fe fyddai'r grwpiau hynny'n derbyn rhyw £70,000 o gyllid cyhoeddus, yr hawl i ddanfon taflenni am ddim trwy'r post a darllediadau gwleidyddol.
Does dim rhaid bod yn guru etholiadol i wybod y byddai ymgyrch refferendwm gyda grwpiau ymgyrchu swyddogol yn wahanol iawn i un lle nad oedd grwpiau felly'n bodoli. Y broblem yn achos pleidlais Mawrth y 3ydd yw na fydd trefnwyr y naill ochor na'r llall yn cael gwybod tan diwedd y mis ydy maint eu cefnogaeth a'u cyllid a safon eu trefniadaeth yn cyrraedd y trothwy angenhreidol. Gellir canfod manylion y trothwy hwnnw yn ac mae'n weddol amlwg o'u darllen mai cael a chael fydd hi i'r ymgyrch 'Na' gwrdd â'r anghenion. Os nad oes 'na ymgyrch 'Na' swyddogol fydd na ddim ymgyrch 'Ie' swyddogol chwaith.
Does dim dwywaith bod y sefyllfa yn boen tin i'r ymgyrch 'Ie' a 'Na' fel ei gilydd. Mae'n golygu bod yn rhai i'r trefnwyr baratoi ar gyfer dau ymgyrch gwahanol iawn i'w gilydd.
Y rhadbost a'r darllediau sy'n poeni'r ymgyrch 'Ie' - nid y £70,000. Mae 'na gyfyngiadau ar sut mae'r arian hwnnw i'w ddefnyddio. Mae'n anghyfreithlon defnyddio cyllid cyhoeddus ar ymgyrchu na chysylltu ag etholwyr. Rhaid ei ddefnyddio ar bethau fel cyflogi staff a llogi swyddfeydd - pethau sy'n ddigon hawdd eu cael am ddim neu ar fenthyg. Yng ngeiriau sarhaus un o drefnwyr yr ymgyrch 'Ie' "yr unig ffordd i ni wario £70,000 mewn mis fyddai trwy logi jacwsi yn yr Hilton".
SylwadauAnfon sylw
Dwi ddim cweit yn deall pam y son fod yr ymgyrch Na efallai ddim am gyrraedd y trothwy. Dwi wedi darllen y gyfraith yn dy linc a mae'n rhaid mod i yn methu rhywbeth.
Yn ol be dwi'n weld mae s109 (b) yn deud os na dim ond un grwp sy'n gofyn i gynriochioli "Na" yna mae'n rhaid i'r Comisiwn ei derbyn nhw (just bo nhw yn gallu dangos ei bod nhw yn cynriochioli y bobl sydd eisiau pledleisio na)
Be dwi'n fethu?
Dwi'n meddwl fy mod i'n mynd yn fwy twp wrth i mi fynd yn hy^n. Mi geisiais i ddilyn y linc a roddoch chi yn y blog i safle we'r ddeddfwriaeth, a darganfod fy hunan yn dilyn Alys ar ei hanturiaethau yng Ngwlad yr Hyd - ac wrth geisio gwneud sens ohono, mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i fyd mwg a drychau.
Oce, roeddwn i'n deall y rhan gynta - os nad oes ond dau ddewis i'w gael ar ffurflen y refferendwm, gall y Comisiwn Etholiadol ddynodi dau grw^p mae nhw'n eu hystyried sy'n gynrychioliadol i ymgyrchu ar gyfer y ddwy ochr. Ac os nad oes dau grw^p, yna gall y Comisiwn benderfynnu peidio cefnogi 'run un o'r ddau. Ond syt mae nhw'n penderfynnu dilysrwydd?
Wedyn mae hi'n mynd yn gymhleth. Gradd yn y Saesneg sy gen i, ond wir, wrth ddarllen gweddill y tudalennau roeddwn i'n amau mai darllen rhyw iaith arall, gyda rhyw fath o gysylltiad eitha pell gyda'r Saesneg, oeddwn i. Ac wrth gyrchu'n ddyfnach i'r linciau ar y tudalennau, doedd dim mwy o sens - heblaw y ffaith cyson nad oedd y safle we byth yn rhoi unrhyw newidiadau a wnaed i'r ddeddfwriaeth, dim ond y gwreiddiol!
Ond wir, yr... Welais i ddim un maen prawf yn unman ar sut y byddai'r Comisiwn yn penderfynu ar ddilysrwydd y grwpiau, heblaw rhywbeth am "rhaid i'r comisiwn fod yn fodlon bod y grw^p yn cynrychioli'n briodol y rhai hynny sydd â barn un ffordd neu'r llall ar un o'r dewisiadau."
O ddarllen fy mhapur newydd bore ddoe cefais ar ddeall bod pedwar o feini prawf, a bod amheuaeth os byddai 'True Wales' yn cyflawni un o'r pedwar, sef cynrychioli barn ym mhob cwr o Gymru.Felly mae'n rhaid bod y gohebydd - a chithau yn ôl eich sylwadau, wedi darganfod rhyw feini prawf yn rhywle. Ond weles i ddim gair am hynny ar y tudalennau safle we niferus yr ymdrybaeddais i ynddyn nhw! Felly, efallai fi sy'n dwp a heb wybod lle i edrych - neu efallai bod y gweision sifil ac aelodau San Steffan a gynhyrchodd y rwtsh yma yn wallgo bost?
O, esgysodwch fi - dw'i newydd weld cwningen wen yn martsio ar draws y sgrîn. Mi ddilyna'i hwnnw, ac efallai fe aiff â mi i swyddfa y Comisiwn Etholiadol, lle mae'n siwr y ca'i ateb i'm cwestiwn.