´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2011

Trafferthion i'r Toriaid

Vaughan Roderick | 10:00, Dydd Iau, 31 Mawrth 2011

Sylwadau (1)

Mater i'r pleidiau yw sut mae lansio eu hymgyrchoedd ond gair bach i gall.

Dyw cynnal lansiad yn ystod 'Wales Tonight' a 'Wales Today' heb sicrhau bod eich arweinydd ar gael i gyfweliadau byw ddim yn syniad arbennig o dda.

Efallai eich bod wedi yn ceisio dyfalu pam mai Darren Millar ac nid Nick Bourne oedd yn ymddangos ar rifyn neithiwr o 'Wales Today' - y ffenest siop bwysicaf i wleidyddion Cymreig. Wel, dyna'r esboniad i chi.

Roedd Nick yn annerch llond dwrn o gefnogwyr mewn ystafell di-nod tra roedd Darren yn cael dweud ei ddweud o flaen 276,000 o wylwyr teledu.

Roedd Darren wrth ei fodd, wrth reswm! Andrew RT llai felly, efallai!

Roedd ambell i Dori yn rhyfeddu wrth weld y fath gawl amaturaidd gan blaid sydd gan amlaf yn cael ei nodweddi gan ei phroffesiynoldeb ond mae 'na broblem arall gan Geidwadwyr Cymru.

Deallaf fod dyddiad lansio maniffesto'r blaid wedi ei ohirio tra bod trafodaethau munud olaf yn cael eu cynnal a'r blaid yn Llundain.

Does gen i ddim clem beth yw'r union broblem ond gallaf ddychmygu. Mae'n bosib bod y maniffesto yn cynnwys addewidion sy'n effeithio ar y berthynas a Llundain a bod angen eu sgwario ac adrannau Whitehall. Rhywbeth ynghylch ariannu, efallai.

Mae'n ddigon posib hefyd bod y maniffesto yn cynnwys addewid neu addewidion i Gymru sy'n rhagori ar yr hyn mae Llywodraeth y DU yn gwneud yn Lloegr.

Cymerwch un enghraifft posib. Mae'r blaid wedi bod yn rhygnu ymlaen ers misoedd am y syniad o gyflwyno "cerdyn y lluoedd arfog" a fyddai'n galluogi i aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd dderbyn llwyth o fuddiannau megis teithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r addewid hwnnw yn un o'r rhai sydd ar gerdyn addewidion y blaid ond mae'n gadael gôl agored i Lafur yn San Steffan. Os ydy'r cerdyn yn syniad mor dda pam nad yw Llywodraeth David Cameron yn cyflwyno cynllun tebyg yn Lloegr? Ydy'r Ceidwadwyr yn credu bod milwyr a morwyr Cymru'n ddewrach a mwy haeddiannol na rhai Lloegr?

Nawr, dyw Llundain ddim yn mynd i orfodi'r i'r blaid Gymreig newid y polisi hwnnw nac unrhyw bolisi arall ond mae angen amser i ystyried sut mae delio a'r goblygiadau posib yn San Steffan.

Fel dywedais i o'r blaen dydw i ddim yn gwybod beth yw union asgwrn y gynnen ond mae'r rhyfeddod nad oedd y pethau yma wedi eu sortio allan misoedd yn ôl.

O Arglwydd

Vaughan Roderick | 13:43, Dydd Mercher, 30 Mawrth 2011

Sylwadau (3)

Rwy'n person ddigon trist weithiau! Rhwng darlledu ar Wales Today a Newyddion neithiwr bues i'n gwylio recordiad o ddadl yr arglwyddi ynghylch y cymalau hynny o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy'n ymwneud ac S4C.

Mae'r ddadl yn werth ei gwylio yn ei chyfanrwydd ond fe gododd un pwynt hynod ddiddorol. Cyhoeddodd y Farwnes Rawlings ar ran y Llywodraeth y byddai'r Adran Ddiwylliant yn ymgynghori a Llywodraeth y Cynulliad ynghylch ariannu S4C gan wneud hynny ar sail cymal 10 (1) (e) o'r mesur.

Mae'n amlwg nad yw Dafydd Wigley wedi colli dim o'i sgiliau seneddol gan synhwyro arwyddocâd y cymal hwnnw yn syth. Dyma mae'r cymal yn dweud.

"...the Welsh Ministers, if the proposal relates to any matter, so far as applying in or as regards Wales, in relation to which the Welsh Ministers exercise functions".

Nawr mae'r mesur yn effeithio ar hen ddigon o gyrff cyhoeddus sy'n rhan o faes llafur Gweinidogion y Bae ond S4C ddim yn un o'r rheiny. Dyw darlledu ddim wedi datganoli. I'r Adran Ddiwylliant yn Whitehall ac i'r Adran yna'n unig y mae S4C yn atebol.

Oedd y Farwnes wedi gwneud camgymeriad felly? Dyna oedd cwestiwn Dafydd Wigley. Ni chafwyd ateb.

Mae 'na ddau esboniad posib. Mae'n bosib y Farwnes wedi drysu ond mae hi'r un mor bosib bod ei sylwadau yn awgrymu bod Llywodraeth y DU yn ystyried trosglwyddo S4C i wyliadwraeth Gymreig.

Os felly mae 'na gwestiwn arall yn codi. Sut ar y ddaear y gallai S4C fod yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth (Prydain gyfan) y ´óÏó´«Ã½ ar yr un pryd?

Gellir gwylio'r ddadl yn .

Y Rownd Olaf

Vaughan Roderick | 13:42, Dydd Mawrth, 29 Mawrth 2011

Sylwadau (3)

"Dydw i ddim am golli hon - fe allai fod yn hanesyddol."

Nid yn aml y mae rhywun yn clywed yr ansoddair yn cael ei ddefnyddio ynghylch cynadleddau newyddion y Democratiaid Rhyddfrydol. Cymerais felly mai cellweirio oedd fy nghyfaill nes iddo ychwanegu brawddeg arall. " Wedi'r cyfan" meddai "mae'n bosib mae hon fydd yr olaf am bum mlynedd!"

Nawr go brin, dybiwn i, yw'r posibilrwydd y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dychwelyd i'r Cynulliad gyda llai na'r tri aelod sydd eu hangen i ffurfio grŵp swyddogol.
Serch hynny wrth i'r rownd olaf o gynadleddau cyn yr ymgyrch etholiad gael eu cynnal efallai bod 'na werth mewn mynd i fwy o fanylion nac sy'n arferol am y ddefod wythnosol hon.

Tair cynhadledd sy 'na ar fore Mawrth, un y Llywodraeth, yna un y Ceidwadwyr ac yna'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r tair yn cael eu cynnal un ar ôl y llall yn yr un ystafell yn ddwfn ym mherfeddion y Senedd.

Carwyn Jones ei hun oedd yn cymryd Cynhadledd y Llywodraeth. Mae hynny'n anarferol iawn. Fel rheol os ydy'r Prif Weinidog yn bresennol mae ei ddirprwy yno hefyd. Heddiw doedd dim son o Ieuan. Efallai bod hynny'n rhan o'r broses o ymbellhau rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Efallai bod ganddo bethau gwell i wneud.

Gyda Carwyn yn ceisio osgoi gwneud unrhyw bwyntiau pleidiol gwleidyddol digon cwta oedd y gynhadledd - ond nid sgorio pwyntiau yn unig bwrpas y sesiynau yma maen nhw hefyd yn gyfle i ganfod gwybodaeth.

Heddiw, er enghraifft gofynnwyd i Carwyn a fydd rheolau "purdah" etholiad y Cynulliad yn rhwystro'r DCMS rhag cyhoedd enw cadeirydd nesaf S4C. Na fyddi yn ôl Carwyn. Dyna un esgus yn llai felly am oedi sy'n ymddangos yn fwyfwy rhyfedd. Canfod siaradwr Cymraeg gyda chymwysterau cymwys ond nad oes ganddo fe neu hi gysylltiau ac S4C yw'r broblem mae'n debyg. Hwyrach y y dylid chwilio yn Nhrelew a Chwm Hyfryd!

Ymlaen a ni at y Ceidwadwyr felly neu yn hytrach i mewn a nhw atom ni! Nick Bourne oedd yn ateb y cwestiynau y tro hwn. Roedd e'n gwneud hynny gan wybod mai hwn efallai oedd y tro olaf iddo wynebu cwestiynau newyddiadurwyr yn y Senedd. Cyfaddefodd ei hun fod ei ddyfodol gwleidyddol yn dibynnu ar loteri rhestr y Gorllewin a'r Canolbarth ond roedd ymddangos yn ddigon addfwyn ynghylch y peth. Efallai bod yn gweld ffawd Mike German a Dafydd Wigley fel cynsail i';w yrfa ei hun!

Mae hi bron yn sicr y byddai Nick yn colli ei sedd rhestr pe bai Kirsty Williams yn colli Brycheiniog a Maesyfed. Fe gawn wybod a ydy hynny am ddigwydd yn ddigon buan. Yn sicr fe fydd y blaid yn cwffio'n galed ac fe gadarnhaodd y byddai Nick Clegg yn dod i Gymru i roi hwb i'r ymgyrch. Os hwb yw'r gair!

Dyna ni felly. Mae'r trydydd Cynulliad yn tynnu at derfyn ei oes ac ymgyrch ac etholiad difyr iawn ar fin cychwyn. Ar ôl cyfnod byr i ffwrdd rwy'n fach o fod yn ôl i sgwennu yn eu cylch

Rhithfyd

Vaughan Roderick | 10:02, Dydd Iau, 10 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Dyn dewr fyddai'n camu mewn i ffrae rhwng Angharad Mair a Cris Dafis ac rwy'n gobeithio na fyddaf yn pechu'r naill neu'r llall o golofnwyr Golwg trwy wneud hynny!

Fe fydd darllenwyr y cylchgrawn yn ymwybodol bod y ddau wedi bod yn ffraeo rhiw faint ynghylch pwysigrwydd datblygiadau diweddar ar y we i ddyfodol y Gymraeg.

Roedd Cris yn gweld datblygiad , y safle sy'n dod a thrydarwyr Cymraeg ynghyd, fel cam tuag at greu rhyw fath o rith-gymuned Gymraeg. Roedd Angharad yn gweld dim byd mwy na lot o glebran gwag. Mae'n gwbwl bosib i'r ddau fod yn gywir wrth gwrs.

Yn sicr mae'r safle ynghyd a chyfres o ddatblygiadau eraill wedi rhoi hwb sylweddol i'r we Gymraeg oedd wedi dechrau teimlo fel lle cymharol sglerotig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ar ôl ei lansiad trychinebus mae Golwg360 yn cynnig gwasanaeth defnyddiol a thra gwahanol i un y ´óÏó´«Ã½. Mae gwefan newydd Y Cymro hefyd yn hynod addawol. I goroni'r cyfan mae strategaeth newydd S4C hefyd yn rhoi pwyslais ar greu rhwy fath o hafanddalen neu borth i'r Gymraeg ar y we.

Y cwestiwn sy'n codi yw i ba raddau y dylai'r gwahanol safleoedd yma gyd-weithio. Yn achos Golwg360 a'r Cymro, yr ateb, dybiwn i, yw dim o gwbwl. Mae cystadleuaeth yn beth da ac os ydy'r Cymro yn gallu rhoi tipyn o her i Golwg mae hynny i'w groesawi. Does 'na ddim arwydd bod y cyngor Llyfrau'n bwriadu ail-dendro'r gwasanaeth ar-lein unrhyw bryd yn fuan ond fe fydd ymdrechion Y Cymro yn cadw pobol Golwg ar flaenau eu traed.

Yn yr hinsawdd bresennol dydw i ddim am fentro trafod perthynas safleoedd ar-lein y ´óÏó´«Ã½ ac S4C ac eithrio codi cwestiwn.

Os mai bwriad y ddau ddarlledwr yw cael y nifer fwyaf o wylwyr a gwrandawyr oni fyddai'n fanteisiol i ddeunydd Cymraeg ymddangos ar gymaint o safleoedd ac sy'n bosib. Oni fyddai'n gwneud synnwyr er enghraifft i allu gwrando ar Radio Cymru trwy wefan S4C neu wylio'r cyfan o raglenni S4C ar iPlayer? Dim ond gofyn. Chwedl Dylan Jones!

Brodyr Bach!

Vaughan Roderick | 12:37, Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2011

Sylwadau (3)

Roedd pawb yn disgwyl i'r cadoediad rhyng-bleidiol ddod i ben yn fuan wedi'r refferendwm ond go brin fod unrhyw un wedi rhagweld y byddai'r cwffio cyntaf yn digwydd o fewn un o'r pleidiau. Llafur yw'r blaid honno ac mae'r ffrwgwd yn deillio o gyfres o ddatganiadau diweddar gan Peter Hain.

Yn eu plith roedd honiad bod y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, yn "aneffeithiol" ac nad oedd ei blaid yn "cynnig unrhyw beth i Gymru". Ar ben hynny cyhuddodd Dafydd Elis Thomas o ymddwyn yn "uwch na'i gyflog" wrth alw am ddiddymu'r Swyddfa.

Nawr, mae'r sylw olaf yn ddealladwy. Wedi'r cyfan os nad oedd gan Gymru Ysgrifennydd Gwladol ni fyddai angen unrhyw un i'w gysgodi. Fe fe fyddai gyrfa Peter yn diflannu i'r... wel, i'r cysgodion!

O safbwynt y sylwadau eraill roedd hi'n ymddangos eu bod yn rhan o dacteg fwriadol. Hynny yw , gan nad oedd hi'n bosib i wleidyddion Llafur y Cynulliad ymosod ar Blaid Cymru oherwydd y cytundeb clymblaid roedd Peter wedi ei benodi fel rhyw fath o "attack dog".

Roedd cynhadledd newyddion ar y cyd rhwng Carwyn a'i ddirprwy yn gyfle da i geisio corddi'r dyfroedd. Bant a ni, felly

Oedd y Prif Weinidog yn cytuno bod Ieuan yn aneffeithiol?

"Does dim gweinidogion aneffeithiol yn fy Llywodraeth i" medd Carwyn

Beth am y sylwadau ynghylch Dafydd Ellis Thomas?

"Sylwadau Peter yw'r rheiny" atebodd Carwyn gan ychwanegu yn ddiweddarach. "Fi yw arweinydd y Blaid Lafur Gymreig a fy rôl i yw siarad ar ei rhan"

Digon teg. Ond os nad yw Peter yn siarad ar ran y Blaid Lafur Gymreig pam mae swyddfa'r wasg yn dosbarthu rhai o'i ddatganiadau o dan y teitl "News from Welsh Labour"?

Pethau byw

Vaughan Roderick | 09:43, Dydd Gwener, 4 Mawrth 2011

Sylwadau (0)

Ni fydd amser gen i flogio heddiw - ond mi fyddaf yn trydar o'r stiwdio ac mae 'na dudalen newyddion byw yn .

Cyfri Croesau

Vaughan Roderick | 14:46, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011

Sylwadau (7)

Os ydych chi'n mentro i'r Bae yn ystod y dyddiau nesaf fe welwch ddau bafiliwn dros dro yn sefyll ar blatfform o sgaffaldiau. Nid cofeb fyrhoedlog i'r diweddar Jane Russell yw'r par hwn - er bod 'na rhy olwg fronnegol yn eu cylch - ond stiwdios dros dro'r ´óÏó´«Ã½ ar gyfer rhaglenni canlyniadau Dydd Gwener. Rwy'n meddwl mai yn yr un ar y dde y bydd Dewi Llwyd a finnau.

Mae'r ´óÏó´«Ã½ a, than yn ddiweddar, ITV, wastad wedi gwario'n hael ar raglenni canlyniadau gan wybod eu bod yn denu cynulleidfa sy'n frwdfrydig os nad yw hi bob tro yn fawr. Mae cymryd rhan ynddyn nhw'n sbort hefyd i bobol fel fi sy'n dwlu clebran ynghylch gwleidyddiaeth am oriau, Mae 'na foddhad hefyd mewn bod ymhlith y cyntaf i glywed sibrydion o'r canolfannau cyfri.

Yn yr oes gyfrifiadurol hon mae cyfrinachedd y cownt yn prysur ddiflannu ac mae'n debyg y bydd rhan helaeth o'r canlyniadau Ddydd Gwener yn ymddangos cyn gynted neu'n gynt ar Twitter nac ar ein rhaglen ni. Ta beth am hynny rwy'n gobeithio y gwnewch chi wylio.

Fe fydd y siabang yn cychwyn am 10.30 y bore.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.