O'r farn
I'r rheiny ohonoch chi sy'n dilyn y pethau 'ma mae'r bwcis "Paddy Power" wedi rhyddhau datganiad yn cyhoeddi eu bod wedi derbyn betiau sylweddol yn darogan na fydd Llafur yn ennill mwyafrif yn y Cynulliad.
Efallai'n wir, efallai ddim. Mae'n debyg mai ychydig gannoedd o bleidleisiau mewn ambell i fan fydd yn penderfynu'r peth.
Dyna o leiaf yw barn y rhan fwyaf o hen bennau'r pleidiau - gan gynnwys rhai Llafur, gyda llaw.
Beth felly am ddarogan yr arolygon barn sydd wedi bod yn awgrymu gwell ganlyniad i Lafur felly?
Rwyf wedi sôn o'r blaen am yr amheuon sydd gan rai am fethodoleg RMG clarity ond mae 'na bwynt pwysig i gofio ynghylch methodoleg dadansoddi YouGov hefyd.
Yn ôl arolwg YouGov i'r Byd ar Bedwar dyma sut mae'r frwydr etholaethol yn edrych ar hyn o bryd.
Llafur; 45%
Ceid.: 20%
Plaid 18%
Dem Rhydd. 8%
A dyma'r darlun rhanbarthol.
Llafur 41%
Ceid. 20%
Plaid 18%
Dem Rhydd 7%
UKIP 7%
Gwyrdd 4%
BNP 3%
Eraill 2%
Mae'r ffigyrau yna wedi eu cymhwyso i gymryd y tebygolrwydd o bleidleisio i ystyriaeth. Yn achos YouGov mae hynny'n golygu rhoi pwys mawr ar ddewisiadau'r rheiny sy'n sicr o bleidleisio a rhyw faint o bwys ar atebion y rheiny sy'n "debygol" o bleidleisio.
Mae hynny ychydig yn wahanol i fethodoleg cwmnïau eraill. Mae'r rheiny ar y cyfan ond yn cymryd atebion y rheiny sy'n sicr o bleidleisio i ystyriaeth gan anwybyddu'r pleidleiswyr "tebygol".
Beth felly fyddai'r canlyniad pe bai YouGov yn defnyddio'r un fethodoleg a chwmnïau eraill?
Wel, dydw i ddim wedi gweld dan foned arolwg y Byd ar Bedwar. Rwyf wedi gweld a chlywed manylion rhai o arolygon eraill y cwmni ac yn yr achosion hynny pe bai'r fethodoleg amgen yn cael ei defnyddio fe fyddai Llafur ychydig yn is, Plaid Cymru ychydig yn uwch a'r pleidiau eraill fwy neu lai'r un peth.
Dyw'r newidiadau ddim yn enfawr ond maen nhw'n ddigon i gynnig naratif gwahanol o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad i'r un mae YouGov ei hun yn cynnig. O ddefnyddio methodoleg YouGov ceir darlun o Lafur yn ennill tir ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru gyda'r Ceidwadwyr yn dal eu tir. O ddefnyddio methodoleg cwmnïau eraill mae'n ymddangos bod bron y cyfan o'r cynnydd Llafur yn dod o'r Democratiaid Rhyddfrydol a nemor ddim o Blaid Cymru.
Does dim modd gwybod eto pa ddarlun sydd agosaf at y gwir ond mae'r gwahaniaeth yn fodd i'n hatgoffa nad wyddor berffaith yw dadansoddi arolygon a bod llunio naratif etholiadol ar eu sail yn hynod beryglus.
SylwadauAnfon sylw
Cytuno 100% ynglyn a fydd yr etholiad yn cael ei benderfynnu mewn llond llaw o etholiadau. Ar y noson mae na 4 etholaeth fyddai'i yn edrych arno; Llanelli, Aberconwy, Caerffili, Caer/S.Penf. Os ydy y seddi yma yn mynd i Llafur, dwi or farn fydd yna mwyfarif i Llafur.
Dwi'n meddwl HMJ nath ddeud o orau dweud "this is not a national campaign, it is a campaign of local candidates" i gymharu a'r Alban. A dyma pam bod hwn wedi bod yn etholiad eitha ddiflas. Os ydy rhesymeg chi yn iawn Vaughan, fysa canlyniad yn wych (h.y Llafur heb mwyafrif a Phlaid chydig yn uwch na'r Ceidwadwyr) a fydd Plaid Cymru hefo penderfyniad anodd iawn i wneud. Dwi ddim o'r farn be mae pobol yn dweud ar Twitter- bod Hain yn briefio am clymblaid gyda'r DemsRhydd- allai'm gweld Kirsty & Co yn gweithio hefo Carwyn.
I gloi dau gwestiwn:
a fydd y ´óÏó´«Ã½ yn rhoi unrhyw arolwg cyn dydd iau? os felly, pam tydy ´óÏó´«Ã½ ddim wedi?
a fydd y ´óÏó´«Ã½ yn edrych i fewn i honiadau am y Blaid Lafur yn Aberconwy a Caerffili?
Yn ôl You Gov mae 62% yn bendant am bleidleisio ac o leiaf 75% yn debygol o wneud. Mae hyn yn bell iawn, iawn ohoni. Mae gen i deimlad mai pleidlais feddal Llafur fydd ddim yn troi allan, a bydd canlyniadau'r etholiad yn siom enfawr i Carwyn a'i griw.
Gyda llaw. Dyma'r ddolen sy'n cyfeirio at y nifer tebygol o bleidleiswyr