Annwyl Mrs Jones
Go brin fod yna unrhyw bwnc sy'n fwy at ddant anoracs gwleidyddol na systemau pleidleisio.
Gellir synhwyro bod y mwyafrif llethol o etholwyr heb unrhyw ddiddordeb yn y pwnc. Yn wir, mae'n anodd meddwl am bwnc sydd o lai o ddiddordeb i'r "Mrs Jones, Llanrug" chwedlonol y mae cenedlaethau o newyddiadurwyr Cymraeg wedi ei hyfforddi i ddarparu newyddion ar ei chyfer.
Rwy'n cofio un ffrae fawr yn ystafell newyddion y ´óÏó´«Ã½ degawdau yn ôl wrth i ryw olygydd neu'i gilydd wrthod stori gan ohebydd ar y sail bod hi "o ddim diddordeb i 'Mrs Jones, Llanrug". "Mae Mrs Jones yn hen idiot anwybodus felly!" oedd ymateb y gohebydd. Gresyn gen i ddweud nad fi oedd y gohebydd hwnnw - ond efallai dywedaf rhywbeth tebyg yn y dyfodol.
Nid pwnc sych, academaidd yw systemau pleidleisio. Ac eithrio niferoedd y pleidleisiau, y gyfundrefn o ddosrannu seddi ar eu sail yw'r ffactor bwysicaf wrth benderfynu canlyniad etholiad.
Yn y cyd-destun hwnnw mae'n ddiddorol darllen y stori yma ynghylch yr Alban. Cewch ddarllen y cyfan os dymunwch ond yn y bôn mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn dadlau bod angen newid cyfundrefn bleidleisio Holyrood. Craidd y ddadl yw bod un blaid - sef yr SNP - wedi llwyddo i ennill mwyafrif mewn cyfundrefn etholiadol lle nad oedd hynny i fod yn bosib. Rhaid yw newid y drefn felly.
Nawr fe fyddai'n gamgymeriad i ddiystyru unrhyw adroddiad sy'n cyfri'r hen ben gwleidyddol yr Athro John Curtice ymhlith ei awduron. Ar y llaw arall mae'n rhaid bod John yn gwybod yn iawn nad oes 'na unrhyw bosibilrwydd o gwbl y bydd yr argymhellion y Gymdeithas yn cael eu gwireddu.
San Steffan sy'n gyfrifol am gyfundrefn bleidleisio Senedd yr Alban ac yn y cyd-destun gwleidyddol presennol fe fyddai defnyddio'i pŵer i newi y drefn yn groes i ddymuniad Llywodraeth yr Alban yn wallgofrwydd gwleidyddol. Gellir cymryd yn ganiataol hefyd na fydd Llywodraeth yr Alban yn cydsynio.
Mae hynny'n dod a ni at benderfyniad Pwyllgor Gwaith Cymreig y Blaid Lafur dros y Sul i fygwth y gallai Llafur yn y dyfodol gyflwyno cyfundrefn 'cyntaf i'r felin' ar gyfer etholiadau Cynulliad pe bai'r Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig yn dechrau potsio a'r gyfundrefn sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Mae nifer sylweddol o aelodau Llafur yn anesmwyth iawn ynghylch y syniad o gael gwared a chynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau'r cynulliad ond yn derbyn bod y bygythiad hwnnw yn arf angenrheidiol yn y brwydrau seneddol sydd i ddod.
Yn y bôn mae Llafur yn ceisio sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr un parchedig ofn a Llywodraeth yr Alban. Mae'r rhesymeg wleidyddol yn amlwg. Y peryg yw bod drws wedi ei gilagor a allai fod yn hynod anodd ei gau.
SylwadauAnfon sylw
Y ddadl gryfaf o blaid cael o leiaf elfen o PR ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yw natur Cymru. Dim ond trwy PR y gallwn gael system etholiadol sy'n cydnabod amrywiaeth ddiwylliannol, hanesyddol, ieithyddol a gwleidyddol Cymru. Amrywiaeth sydd i ryw raddai, a cheisiaf beidio bod yn eithafol neu'n ormodol wrth ddweud hyn, yn 'ethnig'.
Hynny yw, mae PR yn rhoi cyfle i bob person ac unigolyn yng Nghymru deimlo eu bod yn rhan o Gymru ac fod i'w llais a'i deimlad ef/hi o Gymreictod, le yn y Gymru honno. Mae'n cydnabod y gwahanol fathau o Gymreictod. Dydy Cyntaf i'r Felin (FPTP) ddim yn cynnig hynny o gwbl.
Mae system Ci'rF yn rhyw weithio ar gyfer San Steffan (er wn i ddim pam fod Llafur mor gefnogol iddo ar ôl iddo 'ddwyn' o leiaf 2 etholiad cyffredinnol oddi wrthynt ers y Rhyfel). Mae'n gweithio gan fod gwasg ryfygus a bod dim un cysyniad o Seisnigrwydd/Prydeindod yn tra-arglwyddiaethu. Dydy hynny ddim yn wir yng Nghymru.
Mae penderfyniad Llafur felly nid yn unig yn un wleidyddol annoeth gan ei fod yn codi gwrychyn pleidiau sydd rhaid iddynt gael cefnogaeth dros y 5 mlynedd nesa, ond mae hefyd yn ffordd o ddweud nad ydynt am i Gynulliad Cymru gynrychioli holl amrywiaeth barn a chymunedau Cymru.
Os yw'r Cynulliad i lwyddo mae'n rhaid cael PR. Fase'n well gen i dderbyn Comisiwn Richard o 80 sedd ac STV ond mae unrhyw beth yn well na chynnig presenol Llafur. Ac wrth gwrs, pasiodd Llafur newidiadau i system bleidleisio Cymru o dan Hain - gwahardd sefyll mewn sedd etholiadaol a'r rhestr - a doedd dim 'problem' ganddynt y pryd hynny.