´óÏó´«Ã½

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dewis Geiriau

Vaughan Roderick | 10:04, Dydd Iau, 10 Tachwedd 2011

Rhywbeth cymharol newydd yw colofn "clarifications and corrections" y Daily Mail. Yn wir fe fyddai sinig yn amau bod y peth ond yn bodoli o gwbwl oherwydd bod golygydd y papur, Paul Dacre, yn dymuno cael rhywbeth i gyhoeddi yn ystod ei ymddangosiad gerbron ymchwiliad Leveson fis yn ôl.

Ta beth yn y golofn yr wythnos hon cafwyd "cywiriad" bach byr. Dyma fe.

"We stated in an article on 26 September that Christmas has been renamed in various places Winterval. Winterval was the collective name for a season of public events, both religious and secular, which took place in Birmingham in 1997 and 1998. We are happy to make clear that Winterval did not rename or replace Christmas."

Mae eraill wedi cyfri faint o weithiau y mae'r Mail wedi cynnwys straeon ynghylch 'Winterval' ar hyd y blynyddoedd. 44 yw'r ffigwr yn ôl y wnaeth hefyd gyfri 40 o straeon yn y Times, 31 yn y Sun, 26 yn yr Express 22 a yn y Telegraph.

Google oedd eich ffrind os oeddech yn dymuno gwybod y gwir am 'Winterval'. Doedd hi ddim yn anodd canfod gwraidd y stori os oeddech yn dymuno gwneud hynny. Wrth gwrs pa angen y gwir os ydy'r stori yn siwtio'ch agenda?

Mae'n ymddangos bod Archesgob Cymru yn un o'r bobol sy'n dewis credu popeth sy'n ymddangos yn y papurau. Yn ei yn 2007 fe ymosododd yr Archesgob ar yr hyn alwodd yn "ffwndamentaliaeth anffyddiol" oedd meddai "yn achosi, er enghraifft, i awdurdodau lleol alw'r Nadolig yn 'Ŵyl y Gaeaf', ysgolion yn gwrthod llwyfannu dramâu Nadolig a chroesau yn cael eu symud o gapeli".

Nawr mae gen i'r parch mwyaf tuag at Barry Morgan ond nid hwn yw'r unig dro iddo ddefnyddio geiriau y byddai rhai yn gweld fel gormodiaith. Efallai eich bod yn cofio'r ffwdan ynghylch ei ynglŷn â rhoi organau ym mis Medi - sylwadau wnaeth bery pryder i nifer o arweinwyr ffydd.

Rhydd i bawb ei farn ac os ydy'r Archesgob yn dymuno tynnu blew o drwyn mae perffaith hawl ganddo fe wneud hynny. Ar y llaw arall mae'n werth cofio nad Eglwys sefydledig yw'r Eglwys yng Nghymru. Mater o arfer a thraddodiad yw bod pobol yn tueddu troi at yr Archesgob pan mae angen sylw ar ran y cymunedau ffydd. Os ydy'r Archesgob yn defnyddio gormodiaith neu'n dweud pethau sy'n ffeithiol anghywir fe allai fe beryglu'r statws hwnnw.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:21 ar 10 Tachwedd 2011, ysgrifennodd Rebecca Williams:

    Mae rhywun arall wedi "dewis credu popeth sy'n ymddangos yn y papurau" yn y cyd-destun hwn hefyd.

    Bu i @CherylGillanMP drydar ar 8 Tachwedd: This "Winterval" name really annoys me - it's Christmas for goodness sake.......

    Beth mae hynny'n dweud am ei hygrededd a'i statws hi tybed?

  • 2. Am 14:09 ar 10 Tachwedd 2011, ysgrifennodd Chris Castle:

    Mae cywirdeb wleidyddol yr adain dde yn rhemp ond does bron neb yn sylwi arni. Mae holl son am "gywirdeb wleidyddol wedi mynd yn wallgo" wedi tyfu'n gywirdeb wleidyddol ei hunain.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.