Dangos parch
Mae fy nghyfaill Brian Taylor yn ddyn prysur y dyddiau hyn. Fel Golygydd Gwleidyddol ´óÏó´«Ã½ yr Alban mae Brian yn ffigwr cyfarwydd nid yn unig ar raglenni Albanaidd ond yn fwyfwy ar raglenni rhwydwaith wrth i sefyllfa gyfansoddiadol yr Alban hawlio sylw.
Roedd Brian yng Nghaerdydd heddiw i rannu doethinebau a newyddiadurwyr ´óÏó´«Ã½ Cymru ac i gymharu datblygiadau cyfansoddiadol yn y ddwy wlad.
Un o'r pwyntiau diddorol a godwyd gan Brian oedd ymdrechion yr SNP i dawelu ofnau ynghylch annibyniaeth - ofnau sydd yn ôl Brian wedi lleihau'n ddifrifol hyn yn oed ymhlith y rheiny syn dryw i'r Undeb.
Un o'r rhesymau am hynny mae'n debyg yw pwyslais yr SNP ar yr hyn a elwir yn 'undeb cymdeithasol' Lloegr a'r Alban gan ladd ofnau traddodiadol megis bariwns ar y ffin a dileu'r frenhiniaeth.
Heb os mae aelodau cyffredin yr SNP wedi bod yn hynod o ddisgybledig wrth osgoi bwydo bwganod y gellid eu codi gan eu gwrthwynebwyr ac mae hynny wëdi bod yn ffactor bwysig yn eu llwyddiannau diweddar.
Mae'n ymddangos bod mawrion Plaid Cymru fu'n adolygu ei strategaeth a'i threfniadaeth yn credu bod 'na wers i'w dysgu o'r Alban. Mae eu hadroddiad "Camu Ymlaen" yn dweud hyn;
"Wrth osod nod cyfansoddiadol y Blaid yn y tymor hwy, dylem ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, heb i'n sylw gael ei dynnu gan faterion ymylol mad oes iddynt gysylltiad uniongyrchol a chyrraedd ein hamcanion strategol."
At beth maen nhw'n cyfeirio, tybed? Oes 'na awgrym yn fan hyn nad yw cyfeirio at y Frenhines fel 'Mrs Windsor' yn arbennig o adeiladol?
O ofyn y cwestiwn, gwen siriol yw'r unig ymateb y mae dyn yn ei gael.
SylwadauAnfon sylw
Croeso nol! O'n i'n ofni dy fod ti wedi cael y sac!
Y tro nesa yr ei di ar dy wyliau beth am i rywun arall sgwennu i gadw'r blog yn fyw.
Ro'n innau wedi amau'r gwaetha fel y Lembo!
Ond sut mae Brian Taylor yn dal i gael ei gyflogi? Dyw e ddim yn gweddu i 'r patrwm arferol o ohebwyr gwrywaidd meinaidd Aunty? Ac yn edrych yn rhy debyg bob amser fel ei fod yn mwynhau ei waith.